Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ymgynghorol ysgrifenedig (2,000 gair) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Taith Astudio ysgrifenedig (3,000 gair) | 60% |
Asesiad Semester | Adroddiad ymgynghorol ysgrifenedig (2,000 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Adroddiad Taith Astudio ysgrifenedig (3,000 gair) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos y gallu i ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol o amrywiaeth o safbwyntiau penodol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol.
2. Dangos dealltwriaeth o’r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a’r economi wledig.
3. Defnyddio dull beirniadol, arfarnol a dadansoddol wrth ystyried amaethyddiaeth a’r economi wledig.
4. Dangos sut y gellir gwella systemau amaethyddol drwy eu haddasu a’u rheoli.
5. Defnyddio eu disgyblaeth i ddatrys problemau yn y diwydiant amaeth a defnyddio safonau proffesiynol.
6. Cynghori ar arferion cyfredol a chyfrannu at drafodaethau ar lefel fanwl a phriodol.
Disgrifiad cryno
Yn yr ail ran bydd myfyrwyr yn ymweld â menter neu fusnes amaethyddol yn rôl ymgynghorydd, lle y cyflwynir her dechnegol benodol iddynt. Bydd y myfyrwyr yn paratoi ac yn cyflwyno adroddiad ymgynghorol technegol. Bydd y gwaith yn ddadansoddol ac yn cynnwys gwneud adolygiad trylwyr o’r sefyllfa gyfredol, nodi’r rhesymau sylfaenol am y broblem neu’r her a gwneud argymhellion ynglŷn â’r camau y dylai’r cleient eu cymryd.
Cynnwys
Cyflwynir y rhan gyntaf trwy gyfuniad o ymweliadau a gynhelir yn ystod cwrs maes / taith astudio o fusnesau, sefydliadau a safleoedd neu leoliadau yng nghwmni staff a/neu dywyswyr arbenigol. Cynhelir y seminarau gyda’r hwyr ar ôl yr ymweliadau, a chyflwynir adroddiad manwl ar ôl i’r myfyriwr ddychwelyd.
Bydd yr ail ran yn cynnwys ymweliad â menter neu fusnes amaethyddol yng nghwmni’r perchennog/ rheolwr, casglu gwybodaeth, adnabod problem neu her benodol a mynd i’r afael ag ef, awgrymu datrysiadau posibl a’r camau priodol i’w cymryd drwy lunio adroddiad ymgynghorol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y ddau asesiad yn datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â derbyn, cloriannu ac ymateb i ffynonellau gwybodaeth amrywiol. Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn y ddau aseiniad. Bydd yr Adroddiad Ymgynghorol yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig mewn arddull a chyd-destun proffesiynol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd hyn yn ddisgwyliedig fel rhan o’r dysgu adfyfyriol yn y ddau asesiad. |
Datrys Problemau | Mae’r asesiadau’n ymwneud â phroblem realistig a wynebir gan reolwyr amaethyddol, lle bo data ac egwyddorion ar gael, ond nid y datrysiad. |
Gwaith Tim | Bydd casglu data a gwybodaeth yn y maes yn cynnwys elfen o weithio ar y cyd. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd yr Adroddiad Ymgynghorol yn gofyn am ddefnyddio arddull gyflwyno newydd, a bydd gofyn am ystyriaeth a’r gallu i addasu. |
Rhifedd | Bydd cyfrifiadau rhifyddol a chyflwyno data rhifyddol yn elfennau annatod o’r ddau asesiad. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y ddau asesiad yn helpu i wella sgiliau pwnc-benodol yn sylweddol. Byddant yn galw am y gallu i gyflwyno trosolwg cynhwysfawr yn ogystal a gwerthusiad manwl a ffocws mwy penodol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd hyn yn rhan o'r gwaith a asesir. |
Technoleg Gwybodaeth | Gwneir defnydd sylweddol o ffynonellau data digidol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6