Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG30800
Teitl y Modiwl
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Arholiad ysgrifenedig.  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl.  60%
Arholiad Semester 3 Awr   Arholiad ysgrifenedig  60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl.  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad seminar  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Adnabod cydrannau systemau cynhyrchu da byw.

2. Adolygu a gwerthuso llenyddiaeth wyddonol a gweithredu'r canlyniadau er mwyn datblygu systemau cynhyrchu da byw.

3. Esbonio sut mae gwyddoniaeth yn medru cael ei ddefnyddio i wella systemau atgenhedlu, llaetha, iechyd, tyfiant a datblygiad da byw.

4. Trafod y materion moesegol a chymdeithasol sydd yn gysylltiedig gyda'r defnydd o wyddor anifeiliaid.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yma'n archwilio'r ffyrdd y mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu systemau cynhyrchu da byw mwy effeithlon. Bydd seminarau a darlithoedd yn ymdrin ag amrediad o destunau amserol gan gynnwys technolegau atgenhedlu, dulliau dylanwadu llaetha a ffrwythlondeb, gwyddor cig, parasitoleg a hwsmonaeth manwl-gywir da byw.

Cynnwys

Pynciau cyfredol mewn cynhyrchu da byw gan gynnwys:
  • Technolegau atgenhedlu gan gynnwys:
  • - Technoleg ymhadu artiffisial a throsglwyddiad embryo
  • Systemau cynhyrchu llaeth gan gynnwys:
  • - Trin a gwella ansawdd llaeth - Rheoli mastitis yn y fuwch odro - Rheolaeth gwartheg yn y cyfnod trawsnewid
  • Gwyddor cig gan gynnwys:
  • - Twf a datblygiad - Effaith rheolaeth cyn ac ar ôl lladd ar ansawdd cig
  • Strategaethau rheoli parasitiaid da byw gan gynnwys:
  • - Nematodau gastro-berfeddol a llyngyr yr iau
  • Hwsmonaeth manwl-gywir da byw gan gynnwys:
  • - Systemau synwyryddion - Data am reolaeth da byw

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Yn cael ei ddatblygu mewn seminarau a gwaith ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Bydd darlithoedd a seminarau yn datblygu ymwybyddiaeth o'r cydberthnasau cymhleth rhwng cydrannau systemau cynhyrchu anifeiliaid. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i adnabod a dadansoddi problemau, a bydd gwerthusiad o'r llenyddiaeth gwyddonol a'i defnydd yn darparu astudiaethau achos i arddangos sut mae gwyddoniaeth gymhwysol yn medru cael ei ddefnyddio i ddatrys problemau. Asesir mewn seminarau ag arholiad.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn datblygu sgiliau darllen a dehongli cyhoeddiadau gwyddonol, paratoi gwaith ysgrifenedig a chyflwyniadau seminar a gweithio i derfyn amser.
Rhifedd Dehongli cyhoeddiadau gwyddonol. Yn cael ei asesu mewn seminarau ac mewn arholiad.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Datblygir drwy astudio llenyddiaeth gwyddonol ag asesir trwy'r aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Asesir y defnydd o PowerPoint yn y cyflwyniad seminar.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6