Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad ar-lein. Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r hyn a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad ar-lein | 50% |
Asesiad Ailsefyll | (2000 gair) Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad ystadegau | 25% |
Asesiad Semester | Cynllun ymchwil | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd ymchwil mewn ystod eang o yrfaoedd.
2. Chwilio ac adolygu’r lenyddiaeth wyddonol er mwyn adnabod cwestiynau ymchwil dilys.
3. Adnabod dulliau dadansoddi priodol ar gyfer gwahanol fathau o ymchwil.
4. Cynllunio arbrofion sy’n ddilys yn ystadegol.
5. Adnabod a mesur yn erbyn ffactorau sy'n drysu wrth gynllunio ymchwil.
6. Dangos dealltwriaeth o’r pynciau moesegol sydd ynghlwm wrth ymchwil.
7. Dadansoddi data gan ddefnyddio ystod o dechnegau meintiol ac ansoddol.
8. Dehongli canlyniadau dehongli data a chymhwyso gwybodaeth ystadegol wrth werthuso archwiliadau ymchwil.
Disgrifiad cryno
Bydd y cwrs yn trafod egwyddorion ac arferion ystod o weithdrefnau meintiol ac ansoddol sylfaenol dadansoddi data, ynghyd a dealltwriaeth o gynllunio ymchwil da. Bydd y dull cyflwyno yn dibynnu'n gryf ar e-ddysgu a'r myfyriwr yn ganolog iddo, gyda chymorth gweithdai cyfrifiadurol. Trwy e-ddysgu, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol, chwilio am lenyddiaeth a chynllunio ymchwil. Bydd y defnydd o fideos tiwtorial sy'r benodol i'r pwnc yn sicrhau bod y myfyrwyr yn derbyn enghreifftiau esboniadol sy'n uniongyrchol berthnasol i'w maes pwnc arbennig.
Cynnwys
Bydd y modiwl hwn yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a defnyddio ymchwil mewn gyrfaoedd ar lefel raddedig. Bydd Rhan 1 yn edrych ar y cysylltiadau rhwng ymchwil mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd graddedig. Trefnir cyflwyniadau gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd, cyflogwyr ac ymchwilwyr. Bydd Rhan 2 yn rhoi sylw i gynllunio arbrofion, dulliau ystadegol meintiol ac ansoddol o ddadansoddi data ynghyd â gwerthuso ymchwil cyfredol a gyhoeddir mewn ystod o ffynonellau gwahanol. Trefnir ymweliadau maes i wahanol safleoedd yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth a thu hwnt, lle y gellir gweld ymchwil ar waith sy’n berthnasol i radd y myfyriwr.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu mynegi eu hunain yn briodol ym mhob asesiad. Darperir adborth yn yr aseiniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y myfyrwyr yn meithrin hyder yn eu gallu i gloriannu casgliadau ymchwil a’u defnyddio yn eu gyrfaoedd dewisol. |
Datrys Problemau | Bydd angen i’r myfyrwyr benderfynu ar y cynllun ymchwil a’r dulliau dadansoddi mwyaf addas i’w defnyddio gyda gwahanol fathau o ddata. Darperir adborth yn yr aseiniadau. |
Gwaith Tim | Nid yw’n elfen bwysig o’r modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Y tu allan i’r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i’r myfyrwyr ymchwilio i ddeunyddiau, rheoli eu hamser a chwrdd â’r terfynau amser ar gyfer yr aseiniadau a’r arholiad. |
Rhifedd | Bydd bron pob agwedd o’r modiwl yn gofyn am drin data a chymhwyso ystadegau. Darperir adborth ar hyn yn yr ymarferion ar-lein. |
Sgiliau pwnc penodol | Trwy ganiatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar faes ymchwil sydd o ddiddordeb iddynt bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n benodol i’w pwnc. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i’r myfyrwyr ganfod a chrynhoi swm sylweddol o wybodaeth heb gyfarwyddyd staff i gwblhau’r asesiadau. Darperir adborth yn yr aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiol gronfeydd data o gyhoeddiadau gwyddonol. Bydd angen defnyddio gwahanol becynnau meddalwedd i gyflwyno’r aseiniadau yn y modd cywir. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5