Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BBM8720
Teitl y Modiwl
Prosesu Cig
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl.  100%
Asesiad Semester Fforwm Ar-lein  (1200 o eiriau)  25%
Asesiad Semester Astudiaeth Achos  (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Adolygiad Llenyddol  (2500 o eiriau)  35%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. ​Esbonio'r heriau cyfredol a rhai'r dyfodol sy'n gysylltiedig â phrosesu cig yn y cadwyni cyflenwi bwyd a bioseiliedig.

2. Esbonio'r newidiadau biocemegol post-mortem mewn cyhyrau a'u harwyddocâd ar ansawdd cig.

3. Gwerthuso'r ystod o fethodolegau a thechnolegau a ddefnyddir i fesur carcas ac ansawdd cig.

4. Archwilio rol cynhwysion wrth ddatblygu cynnyrch cig.

5. Cynnig dulliau posibl ar gyfer datblygu cynhyrchion cig diogel, iach a maethlon.

6. Gwerthuso rol technolegau newydd ar gyfer prosesu a chynhyrchu cig cynaliadwy.​

Disgrifiad cryno

Gyda thueddiadau'r farchnad gystadleuol yn y sector cig a'r galw cynyddol am gig oen a chig eidion o Gymru y tu allan i'r DU, yn ogystal a sector cig gwyn sy'n tyfu; mae diwydiant cig Cymru yn edrych yn gyson am ddulliau arloesol ac effeithlon i sicrhau twf cynaliadwy. Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddysgu ar-lein a gweithdai, gan ganolbwyntio ar wahanol agweddau o brosesu cig ar gyfer cynnyrch diogel, iach a maethlon. Mae'r modiwl yn gwneud cydbwysedd perffaith rhwng gwyddoniaeth prosesu cig a datblygu cynnyrch cig. Bydd o werth i broseswyr cig, manwerthwyr neu unrhyw un sy'n dechrau busnes newydd yn y sector cig.

Cynnwys

Bydd y cwrs yn gyfres o ddarlithoedd a dysgu dan arweiniad gyda phwyslais ar:

Cyflwyniad i brosesu cig: mathau o gig a chategorïau, cyfansoddiad carcas, bileg cynhyrau, strwythur a nodweddion cyhyrau, prosesu cig diwydiannol

Prosesu sylfaenol ar gyfer cig coch: gweithredau ladd, newidiadau biocemegol ol-mortem a'u harwyddocâd ar ansawdd cig coch, graddio carcasau a mesur ansawdd cig

Prosesu sylfaenol ar gyfer dofednod: prosesu sylfaenol dofednod, newidiadau biocemegol ol-mortem a'u harwyddocâd ar ansawdd cig gwyn, graddio carcasau a mesur ansawdd cig

Diogelwch microbiolegol, ansawdd ac ymestyn bywyd silff cig ffres: microbioleg cig a difetha, egwyddorion cadw cig

Technoleg arloesol mewn prosesu cig: dulliau breuo newydd, awtomeiddio a roboteg

Cig iach: cig fel bwyd swyddogaethol posibl, cynhyrchion probiotig, technegau ail-lunio

Datblygu cynnyrch cig: Cynhwysion a ddefnyddir, mathau o gynnyrch cig

Defnydd sgil-gynhyrchion a deunyddiau gwastraff gan y diwydiant cig

Cynaliadwyedd cig: rol gwyddoniaeth mewn amgylchedd byd-eang heriol

Bydd y modiwl hwn yn cynnwys ymweliad a Chanolfan Bwyd Cymru yn Horeb, (neu debyg) i gael profiad mewn cigyddiaeth a datblygu cynnyrch cig

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu allbwn ymchwil cymhleth i'w cyfoedion yn y fforymau ar-lein a hefyd trwy aseiniadau eraill.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn rhannu'r technoleg bresennol ac y dyfodol mewn prosesu cig gyda'r myfyrwyr i'w helpu i ddatblygu eu busnes neu ddarparu'r wybodaeth/cyngor mwyaf diweddar i'w cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiant cig.
Datrys Problemau Bydd heriau dysgu yn seiliedig ar broblemau trwy astudiaeth achos ochr yn ochr a fforwm ar-lein yn cael eu defnyddio trwy gydol y modiwl i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr.
Gwaith Tim Bydd fforymau ar-lein yn mynnu bod myfyrwyr yn dadlau ymhlith ei gilydd i ddatblygu consensws barn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad. Bydd hwn yn cael ei fesur drwy’r adborth, sy'n darparu arweiniad cyffredinol tuag at aseiniad nesaf y myfyriwr.
Rhifedd Defnyddir rhifedd wrth gyfrifo'r swm cywir o gynhwysion a ddefnyddir wrth ddatblygu cynnyrch.
Sgiliau pwnc penodol Bydd cysyniadau pwnc penodol sy'n ymwneud â phrosesu cig yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy gydol y modiwl.
Sgiliau ymchwil Trwy'r modiwl, bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd a hunanastudiaeth gyfeiriedig, gan wella eu medrau ymchwil llenyddiaeth.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu gwybodaeth o amryw o ffynonellau gwyddonol ac i ddefnyddio Blackboard ar gyfer holl agweddau’r modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7