Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BBM1320
Teitl y Modiwl
Dyfodol Pecynnu
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adolygiad Llenyddiaeth  (2500 o eiriau). Gall myfyriwr ail-afael ag elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant modiwl.  35%
Asesiad Ailsefyll Astudiaeth Achos  (2500 o eiriau). Gall myfyriwr ail-afael ag elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant modiwl.  40%
Asesiad Ailsefyll Tasgau Rhyngweithiol  (1200 o eiriau). Gall myfyriwr ail-afael ag elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant modiwl.  25%
Asesiad Semester Tasgau Rhyngweithiol  (1200 o eiriau)  25%
Asesiad Semester Astudiaeth Achos  (2500 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Adolygiad Llenyddiaeth  (2500 o eiriau)  35%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Esbonio heriau'r presennol ac y dyfodol sy'n wynebu pecynnu amgen.

2. Gwerthuso rhinweddau a chyfyngiadau'r opsiynau pecynnu cyfredol ar gyfer cynhyrchion bwyd a'u defnydd.

3. Gwerthuso'r opsiynau ar gyfer gwella cynaliadwyedd pecynnu.

4. Asesu rol pecynnu mewn systemau cyflenwi bwyd yn y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Dros y blynyddoedd diwethaf mae ymwybyddiaeth o effeithiau amgylcheddol cynhyrchu a gwastraffu pecynnau bwyd wedi cynyddu. Bydd y modiwl hwn yn edrych yn fanwl ar y defnydd o ddeunyddiau pecynnu mewn systemau cyflenwi bwyd modern, a'r gofynion ar eu cyfer. Yna bydd yn archwilio effeithiau amgylcheddol cysylltiedig â phecynnu (gan gynnwys allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff plastig) cyn ystyried modelau llywodraethu ar gyfer rheoli gwastraff pecynnu a'r atebion economi gylchol diweddaraf i leihau effeithiau amgylcheddol. Yn olaf, gan dynnu ar ymchwil arloesol yn y sector, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar ddefnydd newydd ar gyfer pecynnau, a mathau ohonynt, yng nghyd-destun newidiadau mewn systemau cyflenwi bwyd ac arferion siopa cwsmeriaid.

Cynnwys

Bydd y cwrs yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd a dysgu dan arweiniad sy'n canolbwyntio ar:

Cyflwyniad i becynnu

Pecynnu ar gyfer ansawdd a diogelwch cynnyrch

Pecynnu ar gyfer marchnata

Pecynnu ac allyriadau nwyon tŷ gwydr

Pecynnu a'i effaith amgylcheddol

Pecynnu a'i gost economaidd

Llywodraethu cynaliadwyedd pecynnu

Datrysiadau economi gylchol ar gyfer pecynnu cynaliadwy

Pecynnu yn y dyfodol

Astudiaethau achos

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyfleu allbynnau ymchwil cymhleth i'w cyfoedion yn y rhyngweithiadau ac hefyd drwy aseiniadau eraill.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn yn darparu'r ymchwil ddiweddaraf o becynnu i'r myfyrwyr i'w helpu i ddatblygu eu busnes neu ddarparu'r wybodaeth / cyngor diweddaraf i'w cydweithwyr / cleientiaid yn y diwydiant bwyd ac amaeth.
Datrys Problemau Defnyddir tasgau rhyngweithiol i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy’n cyflwyno problemau damcaniaethol i’r myfyrwyr eu datrys. Yn ogystal, bydd yr astudiaeth achos yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr fynd i'r afael â phroblem benodol.
Gwaith Tim Bydd asesiadau ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddadlau ymysg ei gilydd i ddatblygu consensws barn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun ​Roddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad. Bydd adborth yn darparu arweiniad cyffredinol tuag at aseiniad nesaf y myfyriwr.
Rhifedd Bydd rhifedd yn cael ei ddangos mewn amryw o asesiadau trwy ddeall tueddiadau a gwybodaeth a roddir naill ai i'w dadansoddi yn yr aseiniad neu trwy werthuso beirniadol a chymharu'r canlyniadau mewn ymchwil gyhoeddedig.
Sgiliau pwnc penodol Bydd cysyniadau pwnc-benodol sy'n ymwneud â bpecynnuyn cael eu datblygu a'u hasesu trwy gydol y modiwl.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd a hunan-astudio dan gyfarwyddyd, felly byddant yn datblygu eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o gronfeydd data cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd ar y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7