Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
ADM3520
Teitl y Modiwl
Anghenion Dysgu Ychwanegol - Rhagoriaeth mewn Ymarfer
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Haf
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Asesiad ADM3520  Cynllun gweithredu i oresgyn rhwystrau i ddulliau lleoliad cyfan o ran cynhwysiant 4000 o eiriau  100%
Asesiad Semester Asesiad ADM3520  Cynllun gweithredu i oresgyn rhwystrau i ddulliau lleoliad cyfan o ran cynhwysiant 4000 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Ymgysylltu’n feirniadol â dulliau lleoliad cyfan o weithredu cynhwysiant dysgwyr ag ADY.

2. Dadansoddi cryfderau a gwendidau prosesau cynhwysiant lleoliad cyfan yng nghyd-destun eu lleoliad.

3. Myfyrio’n feirniadol ar y sgiliau angenrheidiol i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a’u herio i gyflawni newid.

4. Dadansoddi’r heriau allweddol sy’n creu rhwystrau i ddulliau lleoliad cyfan o gyflawni cynhwysiant.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar arwain dulliau lleoliad cyfan ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y modiwl yn gofyn bod myfyrwyr yn myfyrio ar sut y gellir gweithredu newid i wella addysg gynhwysol ledled eu lleoliadau. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi enghreifftiau o arfer gorau ac yn myfyrio ar sut y gellir cymhwyso'r rhain i'w lleoliad eu hunain. Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o sut y gallant arwain newid cadarnhaol yn eu lleoliadau er mwyn gwella ymarfer cynhwysol. Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddangos rhagoriaeth mewn ymarfer fel CADY.

Nod

Nod y modiwl hwn yw:
1. Rhoi dealltwriaeth gref i fyfyrwyr o ran strategol y CADY wrth weithredu arfer gorau;
2. Pennu'r sgiliau a'r cryfderau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth ledled sefydliadau
3. Gwerthuso ymarfer ystafell ddosbarth, ymyriadau a strategaethau o drafod dros gynhwysiant ledled y lleoliad;
4. Archwilio'n feirniadol egwyddorion allweddol cynhwysiant a sut y mae modd adlewyrchu'r egwyddorion hyn mewn dull lleoliad cyfan.

Cynnwys

● Archwilio enghreifftiau o ddulliau lleoliad cyfan o ymarfer cynhwysol;
● Dulliau ac arddulliau arwain a rheoli;
● Nodi rhwystrau i ymarfer cynhwysol;
● Lleoli dulliau lleoliad cyfan o weithredu cynhwysiant yng nghyd-destun polisi ADY Cymru;
● Defnyddio adnoddau effeithiol i sicrhau darpariaeth ar gyfer ADY ledled y sefydliad;
● Myfyrio ar gryfderau personol a meysydd i’w datblygu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Mae’r holl asesiadau wedi’u cynllunio i’w gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos sut y gallant ddatrys problemau o ran eu hymarfer, a sut y gallant ddefnyddio tystiolaeth, cynllunio camau gweithredu a myfyrio i ddatrys problemau yn annibynnol a thrwy gydweithio â chymheiriaid.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Sgiliau Pwnc-benodol Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i’r llenyddiaeth graidd, y dystiolaeth a’r technegau ymholi mewn cysylltiad â phwnc y modiwl, a disgwylir iddynt ymgysylltu’n feirniadol â nhw. Mae hyn er mwyn dangos y defnydd priodol o ymchwil ac ysgolheictod yn eu harfer eu hunain a’u gwerthusiad beirniadol o hynny, er mwyn ennyn dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc fel y mae’n berthnasol i weithwyr proffesiynol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7