Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (3,000 gair) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Poster A3 | 40% |
Asesiad Semester | Poster A3 | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd (3,000 gair) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth feirniadol o brif egwyddorion datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a’u heffaith ar ddysgu.
2. Deall y cysylltiad rhwng lles cymdeithasol ac emosiynol ac iechyd meddwl yn ystod plentyndod cynnar.
3. Adnabod y dangosyddion allweddol ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a’u defnyddio i gefnogi dysgu, iechyd meddwl a lles plant yn y dyfodol.
Disgrifiad cryno
Mae datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant yn effeithio ar y ffordd y maent yn dysgu. Ymdeimlad o hunaniaeth, o berthyn a hyder yw’r arwyddion allweddol wrth ddatblygu dysgwyr hapus ac iach. Mae angen i ymarferwyr blynyddoedd cynnar allu cefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol plant a rhoi dulliau addysgegol ar waith i adeiladu ar gryfderau a diddordebau’r plant. Bydd y modiwl hwn yn dangos pwysigrwydd datblygiad cymdeithasol ac emosiynol o ran dysgu a sut y gall ymarferwyr ymgorffori dulliau cymorth yn eu harferion.
Cynnwys
1. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol I
2. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol II
3. Iechyd Meddwl
4. Cerrig milltir, ffactorau risg a strategaethau
5. Asesu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
6. Casglu data yn effeithiol
7. Monitro a chloriannu darpariaeth
8. Meithrin perthynas gadarnhaol ag eraill
9. Yr amgylchedd
10.Partneriaethau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Anogir myfyrwyr i fyfyrio ynghylch eu sgiliau a’u cloriannu |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol |
Gwaith Tim | Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a gweithdrefnau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgìl bwysig a fydd yn cael ei datblygu trwy gydol y modiwl |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar |
Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar |
Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud gwaith ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6