Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad ysgrifenedig 1 (2,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid ail-wneud pob elfen o'r asesiadau a fethodd os bydd marc cyfartalog y myfyriwr yn disgyn islaw'r marc pasio gofynnol o 40%. Cyhoeddir teitlau aseiniadau newydd. | |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad ysgrifenedig 2 (2,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad ysgrifenedig 2 (2,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad ysgrifenedig 1 (2,500 o eiriau) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o'r cefndir cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol i'r diffiniadau presennol o hawliau plant.
2. Adolygu'n feirniadol a thrafod y cysyniadau, y dadleuon a'r egwyddorion sy'n ymwneud â hawliau plant.
3. Archwilio'n feirniadol ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â hawliau plant.
4. Dangos cysylltiad beirniadol â deunydd ffynhonnell perthnasol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall hawliau plant mewn theori ac yn ymarferol. Mae'r modiwl yn archwilio'r ddamcaniaeth sy'n sail i wahanol safbwyntiau ar hawliau plant ac yn canolbwyntio ar fesurau ymarferol i hyrwyddo hawliau plant, ac yn ceisio gwerthuso eu heffaith ar fywydau plant.
Cynnwys
Darlith a seminar 1: Ystyron hawliau plant
Darlith a seminar 2: Datblygiadau diweddar mewn polisi ac arfer – confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
Darlith a seminar 3: Agenda hawliau plant a hyrwyddo hawliau plant
Darlith a seminar 4: Mecanweithiau ar gyfer cynrychioli hawliau plant o fewn Llywodraeth
Darlith a seminar 5: Deddf Plant
Darlith a seminar 6: Rolau a chyfrifoldebau oedolion
Darlith a seminar 7: Hawliau a chyfrifoldebau mewn addysg
Darlith a seminar 8: Hawliau plant anabl
Darlith a seminar 9: Gwasanaethau i blant
Darlith a seminar 10: Y broses llys
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy ddarlithoedd a seminarau. Cyfathrebu llafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol asesiadau ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Heb ei ddatblygu yn y modiwl hwn. |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol. |
Gwaith Tim | Mae gweithgareddau'r seminar yn rhoi llawer o gyfleoedd i weithio fel tîm, gan gynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth o aseiniad ysgrifenedig a myfyrdod personol yn ystod tasgau seminar yn annog perfformiad gwell. |
Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Mae angen ymchwil ar gyfer y prif asesiadau a rhai o dasgau'r seminar. |
Technoleg Gwybodaeth | Dylai aseiniadau ysgrifenedig gael eu prosesu â geiriau ac mae un o dasgau'r seminar yn gofyn am ddatblygu cyflwyniad PowerPoint. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6