Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2,000 gair) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Poster Diogelu ar gyfer Astudiaeth Achos 10 Munud | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Astudiaeth Achos (2,000 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Astudiaeth Achos (2,000 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd (2,000 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Poster Diogelu ar gyfer Astudiaeth Achos 10 Munud | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Deall a gwerthuso fframweithiau ar gyfer diogelu.
2. Gwerthuso'r broses o weithredu diogelu mewn gwahanol gyd-destunau addysgol.
3. Gwerthuso a deall pwysigrwydd dulliau aml-asiantaethol.
4. Deall cyfrifoldebau proffesiynol ymarferwyr mewn lleoliadau addysgol.
5. Myfyrio ar eu harferion eu hunain a/neu eu profiadau o ymarfer proffesiynol mewn addyg.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau i baratoi a gweithredu arferion diogelu effeithiol sy'n gyson â deddfwriaeth a pholisi. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso fframweithiau a deddfwriaeth ar gyfer diogelu a, thrwy gyfres o astudiaethau achos, byddant yn gwerthuso'r modd y caiff arferion diogelu eu rhoi ar waith mewn gwahanol gyd-destunau addysgol. Bydd y modiwl yn amlinellu rhai o'r materion diogelu allweddol sy'n wynebu plant ac oedolion agored i niwed o fewn addysg ac yn y gymdeithas ehangach. Bydd y modiwl yn gwella arferion proffesiynol dysgwyr ac yn eu paratoi i weithio gyda grwpiau a allai fod yn agored i niwed.
Cynnwys
2. Polisi a gweithdrefnau 1
3. Diogelu o fewn ymarfer
4. A.Y.C: adnabod, ymateb a chofnodi
5. Partneriaethau
6. Perthnasoedd i hyrwyddo diogelu
7. Arweinyddiaeth wrth gefnogi hawliau, cynhwysiad a lles
8. Helpu plant i gadw'n ddiogel (gan gynnwys diogelwch ar y rhyngrwyd)
9. Monitro rheoliadau a gofynion iechyd, amddiffyn a diogelwch
10. Gwella iechyd, diogelwch ac amddifyn.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn trafodaethau seminar ac wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd gweithgareddau myfyrio yn ystod seminarau yn cael eu defnyddio i annog datblygiad personol. |
Datrys Problemau | |
Gwaith Tim | Bydd gweithgareddau'r seminar yn cynnwys gwaith grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd asesu ar gyfer dysgu yn cael ei ymgorffori mewn llawer o sesiynau er mwyn galluogi dysgwyr i fyfyrio ar eu perfformiad eu hunain a datblygu strategaethau i wella. |
Rhifedd | Caiff adroddiadau ystadegol eu hystyried a chaiff data i gefnogi dadleuon eu dadansoddi. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau o ran gweithredu diogelu ac ymarfer proffesiynol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd hyn yn cael ei ddatblygu drwy'r modiwl ac yn enwedig trwy gyflawni'r ymchwil angenrheidiol ar gyfer yr asesiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd pob aseiniad yn ei gyflwyno drwy dechnoleg a bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG wrth ymchwilio i'w haseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5