Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | .5 Hours Written in-class Exam Arholiad a ysgrifennir yn y dosbarth | 20% |
Semester Assessment | .17 Hours Oral exam Arholiad llafar 10 munud | 20% |
Semester Exam | 2 Hours Exam Arholiad | 60% |
Supplementary Assessment | 2 Hours Resit exam Arholiad ail-eistedd | 80% |
Supplementary Assessment | .33 Hours Oral exam Arholiad llafar 20 munud | 20% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Trafod y rhan y mae cyfansoddion allweddol y systemau troethgenhedlol gwrywaidd a benywaidd (arennol, troethol ac atgenhedlol) yn eu chwarae yng ngwrywod a benywod y rhywogaethau milfeddygol
Brasluniau prif nodweddion y cylchred oestrws, ffrwythloni a beichiogrwydd, gan gyfeirio at yr hormonau sy'n rheoli'r prosesau.
O dan amgylchiadau arholiad, disgrifio adeiledd y cyfansoddion allweddol yn y system ymborthol, a sut maent yn gweithredu.
Trafod sut mae metaboledd sylfaenol gwahanol rywogaethau yn adlewyrchu'r metabolynnau maent yn eu hamsugno sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu adeiledd a swyddogaeth eu llwybr ymborthol, gan gymharu epleswyr blaen-berfedd ac ôl-berfedd â chigysyddion a hollysyddion.
Rhoi gwybodaeth am ffisioleg systemau cyrff a astudiwyd ar waith er mwyn dehongli profion diagnostig am glefydau cyfffredin e.e. glwcos y gwaed a diabetes mellitus.
Brief description
Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg gyffredinol ar adeiledd normal y systemau treulio, troethgenhedlol ac endocrinaidd a sut maent yn gweithredu. Bydd hwn yn fan cychwyn y canghennau "Ymborthol", Endocrinaidd" a "Throethgenhedlol" a fydd yn cael eu dysgu drwy gydol y cwrs BVSc.
Content
Yn y cyflwyniad i'r gangen "Droethgenhedlol" bydd y myfyrwyr yn dysgu'r prif organau, y meinweoedd a'r celloedd sydd i'w cael yn llwybrau troethol ac atgenhedlol, a sut maent yn gweithredu. Bydd y modiwl yn amlinellu'r prif newidiadau yn yr wygell (öosyt) a'r sbermatasoa yn ystod y ffrwythloni, y prosesau sy'n digwydd ar ôl ffrwythloni, gan gynnwys adeiledd y brych a sut mae'n gweithredu, ac yn trafod y newidiadau yn ystod mamolaeth a'r newidiadau i'r ffetws sy'n digwydd ar ddiwedd y beichiogrwydd sy'n arwain at eni. Yn olaf, ystyrir y dylanwadau amgylcheddol ar atgenhedlu er mwyn helpu i ddeall atgenhedlu tymhorol. Bydd cynnwys y gangen endocrinaidd yn yr adran hon yn canolbwyntio ar secretu hormonau a sut maent yn gweithredu yng nghyswllt atgenhedlu. Mae'r system arennol a throethol yn gysylltiedig yn agos â'r system atgenhedlu. Mae'r anatomeg a'r ffisioleg yn cael eu cyflwyno tua diwedd Blwyddyn 1 ac yn cael eu cysylltu â'r system gardioresbiradol o safbwynt y rhan allweddol y mae'r system honno'n ei chwarae wrth reoli cyfaint y gwaed a homeostasis electrolytau.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs a gweithio at yr arholiadau erbyn y dyddiadau penodedig. Nid asesir yr agwedd hon. | |
Bydd yr arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil yn yr arholiad. | |
Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon. | |
Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol, y gwaith cwrs a'r arholiadau yn golygu datrys problemau. | |
Yn ystod y modiwl, fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol, lleoliadau anatomegol. Bydd y rhain yn cael eu hasesu. | |
Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn yr arholiad, lle y'u hasesir. Bydd adborth ar yr arholiadau ar gael. | |
Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon. | |
Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon. | |
Nid yw'n elfen bwysig o'r modiwl hwn |
Notes
This module is at CQFW Level 4