Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | .33 Awr Llafar Ailosod 2 a 3 | 60% |
Arholiad Ailsefyll | 1 Awr Arholiad Ailosod 1 | 40% |
Arholiad Semester | 1 Awr Arholiad | 40% |
Asesiad Semester | .16 Awr Cyflwyniad llafar | 30% |
Asesiad Semester | Adroddiad adfyfyrio 1500 Words | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Deall sut y gallai plethu gwybodaeth glinigol a sgiliau cyfathrebu arwain at ymgynghoriadau mwy effeithlon ac effeithiol.
Edrych ar adeiladwaith y proffesiwn Milfeddygol yng ngwledydd Prydain, a disgrifio'r gwahanol lwybrau gyrfaol i filfeddygon, gan ystyried y wybodaeth, y sgiliau, y doniau a'r agweddau sydd eu hangen i'r swyddi hyn.
Dangos dealltwriaeth am ystyr proffesiynoldeb a'r cyfrifoldebau i gleientiaid, cleifion a'r gymdeithas ehangach sy'n deillio o hynny.
Dangos dealltwriaeth o'r ystod o faterion y gallai fod angen i raddedigion newydd eu hwynebu, gan gynnwys rheoli dyled, cyfreitha, materion cyflogaeth a lles cymdeithasol a meddyliol.
Chwilio am dystiolaeth ddilys, a'i hasesu a'i defnyddio wrth wneud penderfyniadau clinigol.
Dangos gwybodaeth am ddamcaniaethau moesegol a goblygiadau moesegol o fewn y maes milfeddygol o hynny o dan amodau arholiadau.
Disgrifiad cryno
Mae Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth yn rhedeg drwy Flwyddyn 1 ac yn cyflwyno sawl thema bwysig gan gynnwys moeseg, sgiliau cyfathrebu, sut i gloriannu gwerth tystiolaeth ac yn olaf y cyfleoedd a'r heriau sy'n codi o yrfaoedd mewn milfeddygaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar filfeddygon yng Nghymru.
Cynnwys
Mae datblygu sgiliau proffesiynol, agwedd broffesiynol a dealltwriaeth am werth meddygaeth ar sail tystiolaeth yn rhan hanfodol o'ch addysg, yn enwedig i'r rhai sy'n bwriadu mynd ymlaen i yrfa fel Milfeddyg. Mae'r modiwl hwn wedi'i lunio fel y gallwch ddysgu a mireinio'r ystod o sgiliau a fydd yn hanfodol i chi allu llwyddo yn eich gyrfa yn y dyfodol, a'i mwynhau. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys rhai a fydd i'w gweld yn amlwg, megis sgiliau clinigol technegol, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu (gan gynnwys sgiliau ymgynghori a chyflwyno), gweithio mewn tîm, cloriannu gwerth tystiolaeth a rhesymu clinigol, rhesymu moesegol ac agweddau proffesiynol. Yn fwy eang, bydd y modiwl hefyd yn ymdrin â meysydd fel rheoli busnes, a'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ddysgwr cyfrifol ac effeithiol y tu hwnt i'r Brifysgol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiadau cau. Nid asesir yr agwedd hon. | |
Bydd y gwaith cwrs a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn y gwaith cwrs. | |
Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon. | |
Yn ystod y modiwl fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol a biolegol; ac asesir hynny yn yr arholiad a'r gwaith cwrs. | |
Defnyddio'r we i gael ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i destunau perthnasol wrth baratoi at yr arholiad a'r gwaith cwrs. | |
Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn y gwaith cwrs a'r arholiad, a chyfathrebu ar lafar yn y cyflwyniad llafar, lle y'u hasesir. Rhoddir adborth ar hyn. | |
Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Bydd agweddau ar hyn yn cael eu dysgu a'u hasesu. | |
Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol a gwaith cwrs yn golygu datrys problemau ac arholiad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4