Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Creadigol | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect Terfynol Unigol a Thraethawd Atblygol (3000) | 60% |
Asesiad Semester | Prosiect Terfynol a Thraethawd Atblygol (3000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Semester | Portffolio Creadigol | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dyfeisio a chynllunio prosiect cynhyrchu cyfryngol mewn cyd-destun annibynnol.
2. Ystyried eu gwaith creadigol o fewn cyd-destun beirniadol ac atblygol.
3. Arddangos meistrolaeth o sgiliau cynhyrchu penodol ynghyd a dealltwriaeth o'r berthynas rhyngddynt.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn fe fydd myfyrwyr yn gweithio'n annibynnol i greu cynhyrchiad cyfryngol o'u dewis o blith y canlynol: ffilm fer Ffuglen neu Ddogfen (tua 10 munud o hyd). Dysgir y modiwl mewn gweithdai ble disgwylir i fyfyrwyr dafoli eu gwaith o fewn cyd-destun academaidd a chreadigol ehangach.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu prosiectau cynhyrchu creadigol gan adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a'u cymhwyso i gyd-destun o weithio yn annibynnol. Gall myfyrwyr ganolbwyntio ar un math o ffilm (Dogfen neu Ffuglen). Bydd hunanwerthusiad a beirniadaeth atblygol yn wreiddiol i'r modiwl hwn.
Cynnwys
10 x gweithdy 3 awr - semester 1
10 x gweithdy 3 awr - semester 2
Dysgir y modiwl hwn mewn cyfres o weithdai a darlithoedd fel a ganlyn:
Wrth ddatblygu'r ffilm derfynol trafodir y pynciau isod a cheir gweithdai cynhyrchu yn ôl galw'r prosiect:
- Dyfeisio a Chynllunio Prosiect
- Cynhyrchu Creadigol.
- Lleoli Gwaith Creadigol o fewn Traddodiad Critigol ac Atblygol.
- Cyflwyno a Datblygu Syniadau.
- Cyflwyno Gwaith Portffolio ac
- Adolygu Syniadau
- Triniaeth, genre
- deunydd archif
- cyfarwyddo, sain, golygu ac ôl-gynhyrchu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Caiff sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol eu datblygu a'u hymestyn fel rhan allweddol o'r modiwl hwn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd gweithio'n annibynnol yn sgil a ddatblygir yn y modiwl hwn ac yn hynny o beth gwelir fod elfen o ddatblygiad personol yn rhan ohono. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr i ystyried o ddifrif eu cynlluniau gyrfaol yn enwedig wrth iddynt ymwneud ag aelodau o'r diwydiant yn eu dewis feysydd arbenigol. |
Datrys Problemau | Datblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect cyfryngol. |
Gwaith Tim | Gall prosiect terfynol y myfyrwyr fod yn waith unigol os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at feirniadaeth atblygol o waith ei gilydd hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o'r un prosiect terfynol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain yn gyson. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modd o ddysgu yn y modiwl hwn. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Fe ddatblygir medrau ymchwil penodol wrth ddyfeisio ac ymchwilio i'r prosiect cynhyrchu annibynnol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathrebu ar-lein. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6