Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Os yw myfyriwr yn methu cyflawni eu cyfraniad i'r perfformiad a/neu'r gweithdai am resymau meddygol neu unrhyw reswm dilys arall, gellir gosod traethawd (hyd at 6,000 o eiriau) yn lle'r elfen ymarferol. Penderfynir ar hyd a graddfa'r traethawd gan gyd-gysylltydd y modiwl yn ôl canran o'r gwaith a gollwyd. | 100% |
Asesiad Semester | Portffolio Creadigol a Chritigol | 40% |
Asesiad Semester | Proses Ymarfer a Pherfformiad | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Arddangos gallu i gyflawni anghenion eu rôl yn y prosiect yn ôl gofynion celfyddydol, technegol neu/ac ymarferol y cynhyrchiad.
2. Arddangos gallu i ddeall amcanion sylfaenol y cynhyrchiad fel y disgrifir hwy gan arweinydd y prosiect, ac i weithredu'n drwyadl ac yn fanwl wrth gyflawni'r amcanion hynny.
3. Arddangos gallu i newid ac addasu eu ffordd o weithredu er lles y cynhyrchiad wrth ymateb i gyfarwyddyd gan arweinydd y prosiect a chan gyd-fyfyrwyr.
4. Arddangos gallu i ddatblygu deallusrwydd yn annibynnol o'r gwaith cynhyrchu, trwy ystyried y broses ar ei hyd fel enghraifft o ymchwil fel ymarfer.
5. Arddangos gallu i adfyfyrio mewn traethawd ysgrifenedig ar eu cyfraniad unigol i'r broses o greu, ymarfer a chyflwyno’r gwaith terfynol.
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o ddeg wythnos. Fe fydd y myfyrwyr yn gweithio fel rhan o dim cynhyrchu sefydlog dan oruchwyliaeth cydlynydd y modiwl, ac fel aelod o dim cynhyrchu disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a rôl neilltuol a fydd yn cyfrannu'n bwysig at ddatblygiad a chyflwyniad y cynnyrch gorffenedig. Fe fydd natur y roliau hyn yn fater a drafodir rhwng y myfyrwyr a’r arweinydd ar dechrau'r prosiect, ac fe fydd cyfarwyddyd pendant yn cael ei roi i bob myfyriwr yn unigol ar y pwynt hwnnw ynglyn a natur eu cyfraniad a’r hyn a ddisgwylir ohonynt wrth ddatblygu’r cynhyrchiad terfynol.
Cynnwys
Fe fydd y modiwl yn cael ei gyflwyno fel cyfres o ymarferion tuag at gynhyrchiad llawn, ac yn gofyn presenoldeb ac ymroddiad arbennig gan y myfyrwyr tuag at gwblhau'r cynhyrchiad yn llwyddiannus. Fe fydd y cynhyrchiad ei hun yn gofyn 16 awr yr wythnos o waith ar ran pob myfyriwr, gan gynnwys gwaith paratoi ac ymchwil cefndirol tu hwnt i’r oriau cyswllt.
Darlith: 1 awr x unwaith yr wythnos (Cynhelir y ddarlith o fewn oriau’r gweithdai. Addasir trefn a chynnwys y darlithoedd yn flynyddol, yn unol â natur ac anghenion penodol y cynhyrchiad.)
Trefn arfaethedig y darlithoedd:
1. Cyflwyniad i’r Testun Gosod
2. Dadansoddi’r Testun
3. Bywgraffiad a Chyd-destun hanesyddol/cymdeithasol yr awdur
4. Enghreifftiau eraill o waith yr awdur
5. Prif Nodweddion/Gweledigaeth Gelfyddydol y Cynhyrchiad
6. Y Llwyfaniad
7. Arddull y Cyfarwyddo
8. Y Broses Ymarfer
9. Y Cynhyrchiad a’r Gynulleidfa
10. Paratoi’r Portffolio Creadigiol a Chritigol
Mae’n debygol y bydd mwyafrif o fyfyrwyr TC31440 Ymarfer Cynhyrchu 2 eisoes wedi cwblhau TC20040 Ymarfer Cynhyrchu 1 yn yr ail flwyddyn. At hynny, bydd yn y modiwl hwn bwyslais ar ddatblygu sgiliau’r myfyrwyr ymhellach. Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr fynegi dealltwriaeth ddatblygedig a gallu soffisdigedig i ddadansoddi a gwerthuso elfennau dethol o’r cynhyrchiad, ac i wneud hynny’n ysgrifenedig trwy gyfrwng y Portffolio Creadigol a Chritigol ar derfyn y broses gynhyrchu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfwryddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni cheir unrhyw ymwrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. |
Datrys Problemau | Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. |
Gwaith Tim | Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu. |
Rhifedd | Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol ddulliau ymarferol, ac yn datblygu'u dealltwriaeth or theatr fel arf gyfathrebu. |
Sgiliau ymchwil | Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Technoleg Gwybodaeth | Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.); ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6