Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Critigol (gwerth 3000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio critigol (3000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Datblygu corff systemataidd o wybodaeth am hanes y cyfryngau yng Nghymru.
2. Datblygu gwybodaeth am ddadleuon cyfoes am ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.
3. Deall, cymharu a dadansoddi damcaniaethau am hanes ffilm a'r cyfryngau, a natur ffilm a chyfryngau cyfoes.
4. Cymhwyso gwybodaeth a dealldwriaeth er mwyn asesu'n feirniadol y problemau cyfoes sy'n wynebu ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys, ffilm, teledu, y wasg, a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd ddarlledu hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydlidau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall sialensiau sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.
Cynnwys
10 x 2 awr Darlith/Seminar
10 x 3 awr Sesiynau Gwylio
Darlithoedd:
Hanes a Chyd-destun
Damcaniaethau am y cyfryngau yng Nghymru
Sefydliadau Prydeinig: BBC ac ITV
Ffilmiau Amatur Cynnar
Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
S4C
Y Sector Annibynnol: Teliesyn
Y Wasg
Y Rhyngrwyd
Blogiau a Gwe 2.0
Seminarau:
Fe fydd y seminarau yn dilyn yr un patrwm a'r uchod
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion. |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yhw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r we i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5