Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
TC11320
Teitl y Modiwl
Creu Cynyrchiadau Amlgyfrwng
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Ysgrifenedig 1500 Words | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Amlgyfrwng Mewn Grŵp (10-15 munud) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd Ysgrifenedig 1500 Words | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Amlgyfrwng Mewn Grŵp (10-15 munud) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dadansoddi’n feirniadol ystod eang o gynyrchiadau amlgyfrwng.
Manylu a dadansoddi arwyddocâd ac effeithiolrwydd gwahanol elfennau llwyfannu a thechnegol o fewn strwythur dramatwrgiaethol cymhleth.
Cyflwyno dadansoddiad o gynyrchiadau amlgyfrwng yn annibynnol trwy gyfrwng traethawd ysgrifenedig.
Cyflwyno dadansoddiad gynyrchiadau amlgyfrwng fel rhan o grŵp trwy gyfrwng traethawd fideo.
Disgrifiad cryno
Trwy edrych ar ystod o gynyrchiadau gwahanol, fe fydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddadansoddi gwaith perfformwyr, cyfarwyddwyr, dylunwyr, a thechnegwyr yn y broses o greu cynyrchiadau amlgyfrwng. At hynny, bydd y myfyrwyr yn cael eu gwahodd i ystyried arwyddocâd a swyddogaeth cyfraniadau artistig unigol o fewn cyfanwaith ehangach y cynyrchiadau dan sylw, gan gynnwys cynyrchiadau theatraidd, perfformiadol, sinematig a rhai ar gyfer y sgrin fach.
Fe fydd y modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr i ddiffinio ac adlewyrchu ar ddramatwrgiaeth cynhyrchiadau o’r fath, ac i ystyried sut y gall elfennau amlgyfrwng herio rhai o sylfeini cysyniadol mwyaf sylfaenol gwahanol gyfryngau. Disgwylir iddynt wneud hynny nid yn unig o safbwynt yr artistiaid, ond hefyd o safbwynt amryfal gynulleidfaoedd cynhyrchiadau amlgyfrwng.

Cynnwys
Strwythurir y modiwl trwy gyfrwng un ddarlith un awr ac un seminar ddwy awr wythnosol. Bydd cynnwys pob wythnos yn canolbwyntio ar un cysyniad beirniadol a/neu waith gan ymarferydd neu gwmni penodol.
Sesiynau Dysgu:
Darlithoedd: 10 x 1 awr
Seminarau: 10 x 2 awr
Cynnwys:
1. Y Ddadl am Fywoldeb: Auslander a Phelan
2. Y Byw a’r Cyfryngol: Ôl-Foderniaeth The Wooster Group
3. Sinema Fyw: Theatr Amlgyfryngol Katie Mitchell
4. Chwyddo’r Ddrama: Y Camera ar Lwyfan yr Auteur Ewropeaidd (Ivo van Hove, Thomas Ostermeier, a Frank Castorf)
5. Y Perfformiwr Digidol: Eddie Ladd, Cof y Corff
6. Lleihau’r Byd/Ehangu’r Theatr: Rimini Protokoll
7. Sinema Theatraidd: Alexander Sokurov, Russian Ark; Sam Mendes, 1917.
8. Pell ac Agos: Sain ac The Encounter, Simon McBurney
9. Cyfranogiad a Chynulleidfaoedd: Gob Squad
10. Rheoli’r Naratif: Charlie Brooker, Bandersnatch
Noder mai mynegol yw'r rhestr uchod. Gall y cynnwys amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith yn ysgrifenedig ac ar ffurf traethawd fideo, a thrafod ar lafar yn y seminarau. Caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig, ac yn weledol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nid oes sesiynau penodol ar gynllunio gyrfa ond wrth astudio perfformiadau a chynyrchiadau cyfoes, caiff y myfyrwyr gyfle i ddyfnhau eu gwybodaeth o ddiwydiant y cyfryngau creadigol, a chyfle i fynegi hynny trwy gyfrwng traethawd fideo. |
Datrys Problemau | Bydd cyfle i fyfyrwyr arddangos ymwybyddiaeth o adnabod problemau a chanfod ffyrdd o'u datrys o fewn cyd-destun astudiaeth y modiwl. |
Gwaith Tim | Cynhelir trafodaethau grŵp yn ystod y seminarau, a bydd angen cyflwuno’r ail aseiniad fel rhan o dîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i’r aseiniad cyntaf gael eu cwblhau’n unigol, a bydd cyfle yn y seminarau i fyfyrwyr dderbyn adborth ar ddrafftiau. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Mae sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir gan y modiwl hwn yn cynnwys dadansoddi dramatwrgiaethol, semioteg gweledol, a dadansoddi symud. Yn ogystal, mae'r modiwl yn gorfodi myfyrwyr i ymdrin â llenyddiaeth damcaniaethau beirniadol, ac yn cynnig strategaethau er mwyn eu hannog i ddefnyddio'r cysyniadau a gyflwynir yn y llenyddiaeth ar gyfer dehongli ystod berfformiadau a ffurfiau theatraidd gwahanol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ymhellach tu hwnt i gynnwys ffurfiol y darlithoedd er mwyn canfod deunydd priodol i gyflawni eu haseiniadau |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth, gan gynnwys sgiliau golygu fideo sylfaenol, ar gyfer cwblhau’r aseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4