Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr sefyll elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Asesiad Semester | Darn o ysgrifennu academaidd (1,000 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio datblygu sgiliau - adroddiad 1000 gair a chyflwyniad sy’n ymgorffori sgiliau prosesydd geiriau, taenlenni a chyflwyno. | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos cymhwysedd mewn cyfathrebu academaidd
2. Dangos bod ganddynt sgiliau astudio effeithiol
3. Dangos y gallu i ddefnyddio TG i reoli testun, datrys problemau rhifyddol, a chasglu a chyflwyno data
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn dim ond ar gael i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chynlluniau FdSc yn IBERS. Fe’i cynlluniwyd i ddarparu cymorth academaidd a bugeiliol agos i fyfyrwyr yn ystod eu blwyddyn gyntaf a fframwaith ar gyfer datblygu sgiliau astudio, sgiliau bywyd ac ymwybyddiaeth yrfaol wedi’u hategu gan Gynlluniau Datblygu Personol. Bydd yn datblygu sgiliau TG hanfodol sydd eu hangen i gwblhau modiwlau eraill ac a fydd yn berthnasol o safbwynt eu cyflogaeth ac anghenion cyflogwyr. Yn ogystal â hyn bydd yn darparu’r wybodaeth, y cefndir a’r cymorth sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael lleoliadau gwaith (sy’n rhan hanfodol o’u cynlluniau FdSc).
Cynnwys
Mathau o asesiadau a thechnegau arholiad
Ysgrifennu mewn cyd-destun academaidd a dod o hyd i wybodaeth.
Gweithdai ar sgiliau TG hanfodol.
Cyflwyno data.
Cyflwyniadau llafar a defnyddio PowerPoint.
Lleoliadau profiad gwaith.
CV a chyfweliadau.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Ymgymerir â’r elfen hon yn ystod y gweithdai a’r aseiniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ymgymerir â’r elfen hon yn ystod y gweithdai a’r aseiniadau. |
Datrys Problemau | Ymgymerir â’r elfen hon yn ystod y gweithdai a’r aseiniadau. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymgymerir â’r elfen hon yn ystod y gweithdai a’r aseiniadau. |
Rhifedd | Ymgymerir â’r elfen hon yn ystod y gweithdai a’r aseiniadau. |
Sgiliau pwnc penodol | Ymgymerir â’r elfen hon yn ystod y gweithdai a’r aseiniadau. |
Sgiliau ymchwil | Ymgymerir â’r elfen hon yn ystod y gweithdai a’r aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Ymgymerir â’r elfen hon yn ystod y gweithdai a’r aseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4