Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ail gyflwyno'r aseiniadau y methwyd ynddynt | 100% |
Asesiad Semester | Portffolio (3,000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd byr (2,000 o eiriau) | 25% |
Asesiad Semester | Tasgau Profiad Gwaith | 5% |
Asesiad Semester | Asesiad gwaith cwrs | 10% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (20 munud) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso a thrafod pwysigrwydd Mathemateg mewn Addysg Uwchradd.
Gwerthuso adnoddau dysgu y gellid eu defnyddio mewn dosbarth neu ar blatfform ar-lein.
Dangos dealltwiraeth o gymhlethdod y broses ddysgu a chysylltu profiadau dysgu personol a syniadau cyfredol o sut mae disgyblion yn dysgu Mathemaeteg.
Dadansoddi'n feirniadol rhai dulliau dysgu gan gynnwys y cysyniad o wahaniaeth fel strategaeth o ymateb i anghenion dysgu unigol.
Dadansoddi'n feirniadol pwysigrwydd amcanion dysgu a'u perthynas a dysgu ac addysgu effeithiol
Gwerthuso cydrannau allweddol a strwythuro cynllun gwers gan roi ystyriaeth o'r amcanion dysgu diffiniedig yn ogystal a rheolaeth o'r gweithgaredd dysgu
Gwerthuso sut mae dulliau dysgu rhyngweithiol yn gwella dysgu Mathemateg, a bod yn ymwybodol o'r posibiliadau o gyfathrebiad dilafar yn y dosbarth.
Disgrifo'r farn gyfredol am brif bwrpas asesu a rhai o'r egwyddorau sy'n hydreiddio ymarfer da, yn ogystal a thrafod a dadansoddi rhai cynlluniau a pholisiau marcio Mathemateg
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr o addysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd. Bydd y myfyrwyr yn adlewyrchu ar ddulliau addysgu athrawon profiadol ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r sgiliau allweddol ar gyfer addysgu Mathemateg
Nod
Cyflwyno myfyrwyr i addysgu mathemateg ar lefel uwchradd trwy adlewyrchu ar elfen o brofiad gwaith.
Cynnwys
Bydd y modiwl yn cynnwys trafodaeth ar y pynciau canlynol: Y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Mathemateg, Damcaniaethau Dysgu, Amcanion Dysgu, Cynllunio Gwersi, Asesiad, Dulliau Addysgu Rhyngweithiol ac Adnoddau Defnyddiol, Gwerthuso ac Adlewyrchu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrywr yn cadw dyddiaduron adlewyrchol o'u profiadau ar leoliad gwaith ac yn ysgrifennu portfolio yn crynhoi'r profiad. Byddant yn rhoi cyflwyniad llafar unigol i weddill y dosbarth yn ogystal a chyflwyno gwers yn yr ysgol. Bydd yr holl weithdai a'r aseiniadau yn cynnwys trafodaethau llafar yn ogystal a chyfathrebu ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniadau i'r myfyrywr o'r sialensau sydd ynghlwm ag addysgu Mathemaeteg mewn ysgol uwhcradd ac o bosib yn eu hysgogi i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. |
Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn paratoi problemau a datrysiadau ar gyfer cyflwyno gwers yn yr ysgol |
Gwaith Tim | Bydd trafodaeth grwp yn chwarae rhan allweddol yng ngweithdai'r modiwl. Bydd yn gyfle i'r myfyrwyr ranneu eu profiadau a syniadau all fod o gymorth i eraill |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn ymarfer eu sgiliau cyfathrebu ac yn cael y cyfle i ymdrin a Mathemateg yn Gymraeg yn y gweithle |
Rhifedd | Disgwylir i'r myfyrwyr gymorthwyo a tasgau rhifyddol mewn dosbarth yn ogystal a gosod tasgau Mathemaetgol yn eu gwers. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i'r syniadau a'r theoriau dysgu Mathemateg gan ddefnyddio'r rhestr ddarllen a roddir |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i gefndir a chyd-destun y syniadau a'r theoriau a gyflwynir gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff canlyniadau o'r chwiliadau eu trafod yn yr aseiniadau a'r portfollio |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6