Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad lle gwelir y cwestiynau ymlaen llaw | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad lle gwelir y cwestiynau ymlaen llaw | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Adnabod, disgrifio, ac asesu dadleuon cyfoes mewn daearyddiaeth wleidyddol.
2. Ystyried yn feirniadol ystod o ffynonellau a thestunau o ddiddordeb i ddaearyddwyr gwleidyddol, yn amrywio o destunau academaidd i ddogfennau polisi.
3. Dangos tystiolaeth o ddyfnder darllen mewn daearyddiaeth wleidyddol.
4. Mynegi dadl ar ffurf ysgrifenedig am arwyddocâd ymchwil academaidd mewn maes penodol o ddaearyddiaeth wleidyddol.
5. Cymhwyso a gwerthuso cysyniadau daearyddol gwleidyddol yng nghyd-destun enghreifftiau ac astudiaethau achos a dynnir o astudio annibynnol.
Disgrifiad cryno
Darpara’r modiwl gyda gyflwyniad i faes pwysig daearyddiaeth wleidyddol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn. Gan dynnu’n benodol ar ymchwil sydd ar waith yn y grŵp ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd a thu hwnt, cyflwyna’r modiwl ddadleuon academaidd allweddol yn y maes i fyfyrwyr, gan nodi eu cymhwysedd tu hwnt i’r academi drwy ddefnydd polisi ac astudiaethau achos eraill.
Cynnwys
(ond heb fod yn gyfyngedig i) themâu gan gynnwys; y wladwriaeth; y genedl; y rhanbarth; Ymerodraeth, a; gwladychiaeth ’. Bydd Rhan
2, ‘dadleuon cyfredol mewn daearyddiaeth wleidyddol’ yn cynnwys deunydd sy’n canolbwyntio ar (ond heb fod yn gyfyngedig i);
daearwleidyddiaeth feirniadol; globaleiddio; defnydd; tirweddau pŵer; dinasyddiaeth, a; daearyddiaethau etholiadol ’
Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys sesiwn sefydlu, sesiwn yn y Llyfrgell Genedlaethol ac elfen adolygu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblyga’r modiwl fedrau cyfathrebu ysgrifenedig wrth gwblhau’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y traethawd yn profi gallu myfyrwyr i drafod natur gymwysedig daearyddiaeth wleidyddol. |
Datrys Problemau | Bydd y modiwl yn datblygu medrau datrys problemau myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau, a chwblhau arferion datrys problemau bychain yn ystod y darlithoedd. |
Gwaith Tim | Bydd y darlithoedd yn cynnwys gweithgareddau datrys problemau a thrafodaethau a fydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin sgiliau gwaith tîm ac i rannu eu syniadau gyda’r dosbarth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dyluniwyd strwythur y modiwl er mwy darparu adborth cyson drwy gydol y flwyddyn academaidd, a dylai hwn ddarparu myfyrwyr gyda’r cyfle i wella’u dysgu a’u perfformiad. |
Rhifedd | Heb ei dargedu’n benodol yn y modiwl hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y traethawd yn datblygu a phrofi gallu myfyrwyr i weld sut gall syniadau a dadleuon o ddaearyddiaeth wleidyddol gael eu cyfosod i astudiaethau achos empeiraidd. |
Sgiliau ymchwil | Gofynna’r arholiad, traethawd, ac astudiaeth annibynnol i fyfyrwyr ymchwilio i astudiaethau achos yn annibynnol, ac mae hyn yn galw am gyfosod ystod o ddeunydd academaidd ac anacademaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Gofynna’r arholiad, traethawd, ac astudiaeth annibynnol i fyfyrwyr gyflawni ymchwil annibynnol o astudiaethau achos. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr ymestyn eu doniau ymchwil ac arfer eu medrau TG wrth ysgrifennu’r traethawd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5