Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY33120
Teitl y Modiwl
Y Cynfeirdd Diweddar
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Cymraeg Lefel 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad 2 awr  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 3000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd: 3000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:


1. Byddwch wedi dysgu darllen detholiad o gerddi yn yr iaith wreiddiol (gyda chymorth nodiadau pwrpasol); byddwch yn medru trafod nodweddion llenyddol testunau dethol, ac yn medru lleoli'r testunau yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol.

2. Drwy baratoi detholiad o destunau ar gyfer y dosbarth, byddwch wedi ennill profiad o weithio'n annibynnol.

3. Byddwch wedi gwella eich sgiliau cyfieithu drwy lunio aralleiriadau o gerddi'r Cynfeirdd Diweddar mewn Cymraeg Modern.

4. Byddwch wedi dysgu sut i fesur a phwyso ystod o ddadleuon cymhleth.

5. Byddwch yn ymwybodol o ddylanwad barddoniaeth y Cynfeirdd Diweddar ar nifer o awduron ar hyd y canrifoedd.

6. Byddwch yn gyfarwydd a^ phrif genres y Cynfeirdd Diweddar, ac a^'r deunydd sy'n gysylltiedig a^ ffigurau pwysig megis Myrddin, Taliesin, Llywarch Hen a Heledd.


Disgrifiad cryno

Astudiaeth o farddoniaeth c.700-c. 1100 gan gynnwys y cylchoedd englynol (Canu Heledd, Canu Llywarch Hen), cerddi mytholegol, cerddi am gymeriadau megis Taliesin, Arthur,Myrddin, etc, a deunydd crefyddol ac ysgrythurol.

Cynnwys

.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6