Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Tasgau cyfieithu Hyd at dair tasg cyfieithu 1200 o eiriau | 30% |
Asesiad Ailsefyll | 1 Awr Prawf Cyfieithu Prawf Cyfieithu yn y dosbarth ar gyfrifiadur. 1 Awr | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Traethawd 2500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Tasgau cyfieithu Chwe thasg gyfieithu (y tair orau i'w hasesu) 1200 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | 1 Awr Prawf Cyfieithu Prawf Cyfieithu yn y dosbarth ar gyfrifiadur. 1 Awr | 30% |
Asesiad Semester | Traethawd Traethawd 2500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cyfieithu testunau proffesiynol eu natur i’r Gymraeg.
Gwneud defnydd o adnoddau iaith ar-lein a rhaglenni cyfieithu peirianyddol yn effeithiol.
Dangos dealltwriaeth drylwyr o gyweiriau’r Gymraeg wrth gyfieithu.
Dadansoddi yn fanwl heriau’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru.
Dangos dealltwriaeth drylwyr o hanfodion gwahanol fathau ar gyfieithu gan gynnwys cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn dysgu sgiliau cyfieithu proffesiynol ac yn rhoi cyflwyniad i heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu. Yn sgil y galw cynyddol am sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd ar draws Cymru, mae natur y sector cyfieithu yn esblygu. Bydd darlithoedd y modiwl yn trafod datblygiad y sector cyfieithu yng Nghymru, gofynion y diwydiant, swyddogaeth a heriau cyfieithu ar y pryd a datblygiadau technegol yn y maes megis cyfieithu peirianyddol a chofau cyfieithu. Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle ichi ymarfer sgiliau cyfieithu, golygu a phrawf-ddarllen a dysgu am yr adnoddau ieithyddol sydd ar gael i gynorthwyo’r gwaith.
Nod
Amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i sgiliau cyfieithu proffesiynol drwy ddefnydd o dechnoleg cyfieithu a dysgu dealltwriaeth o ofynion a heriau'r sector cyfieithu.
Cynnwys
Datblygiad cyfieithu yng Nghymru
Hanfodion cyfieithu proffesiynol
Cyfieithu yng ngweithleoedd Cymru
Cyfieithu peirianyddol
Cofau cyfieithu
Cyfieithu ar y pryd
Bydd gweithdai’r modiwl yn rhoi cyfle ichi ymarfer cyfieithu ar bapur ac ar gyfrifiadur ac ymarfer eich sgiliau golygu a phrawf-ddarllen. Cewch chi ddysgu am yr adnoddau iaith a ddefnyddir gan gyfieithwyr a gwneud defnydd ohonynt wrth ymarfer. Bydd cyfle yn y gweithdai hefyd i dderbyn adborth adeiladol ar eich gwaith cyfieithu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datblygir sgiliau dadansoddi wrth drafod heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu ac egwyddorion cyfieithu. | |
Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau wrth lunio cyfieithiadau mewn rhai gweithdai. | |
Un o hanfodion y modiwl yw datblygu sgiliau cyfieithu sy’n galw am waith dadansoddi wrth drosi testun i iaith arall. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen, cywair a mynegiant. | |
Datblygir dealltwriaeth o ofynion a heriau’r diwydiant cyfieithu proffesiynol. | |
Datblygir sgiliau cyfathrebu proffesiynol yn y Gymraeg ar ffurf cyfieithiadau ysgrifenedig a thraethawd | |
Datblygir gallu’r myfyrwyr i wella eu dysgu a’u perfformiad drwy’r tasgau cyfieithu rheolaidd. Dysgir sgiliau golygu a phrawf-ddarllen sy’n cynorthwyo myfyrwyr i wella’u gwaith cyfieithu eu hunain. | |
Datblygir dealltwriaeth o gyfieithu peirianyddol, cofau cyfieithu ac adnoddau iaith ar-lein megis geiriaduron a phyrth termau. Anogir y myfyrwyr hefyd i wneud defnydd o’r Bwrdd Du. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6