Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (1,000 o eiriau) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect (4,000 o eiriau) | 80% |
Asesiad Semester | Traethawd (1,000 o eiriau) | 20% |
Asesiad Semester | Prosiect (4,000 o eiriau) | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Gwerthfawrogi pwysigrwydd barddoniaeth fel tystiolaeth lenyddol a hanesyddol – cofnod o fywyd, felly, mewn man a chyfnod arbennig – wrth roi golwg ar gyfnod o hanes;
2. Dadansoddi cysyniadau haniaethol a’u hadolygu’n feirniadol er mwyn dangos ymwybyddiaeth ddofn o hanesyddiaeth barddoniaeth Cymru’r oesoedd canol a’r modd y mae haneswyr wedi defnyddio’r farddoniaeth honno;
3. Datblygu’r gallu i adnabod, dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol yn ddeallus ac yn feirniadol;
4. Adeiladu deongliadau llenyddol a dadansoddiadau hanesyddol – ar lafar mewn grŵp ac yn ysgrifenedig – yn hyderus, yn llafar ac yn ysgrifenedig, drwy ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol yn ogystal â ffynonellau eilaidd.
Disgrifiad cryno
Dysgir myfyrwyr Rhan 2 a Rhan 3 gyda’i gilydd yn y modiwl hwn.
Cynnwys
Seminar 1: Cyflwyniad i farddoniaeth a hanes Cymru’r oesoedd canol diweddar
Seminar 2: Astudio’r testunau gwreiddiol mewn llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol
Mae’r gwaith yn Seminarau 3–9, prif sylwedd y modiwl, yn canolbwyntio ar genres gwahanol, gyda’r nod o’u dadansoddi fel testunau llenyddol ac fel ffynonellau hanesyddol. Canolbwyntir ar genres sylfaenol bwysig – mawl/marwnad, serch a natur a chrefydd – a rhoir sylw penodol hefyd i is-genres: gofyn a diolch, cerddi iacháu a cherddi i adeiladau ac i drefi. Ceir cyfle i ddadansoddi’r hyn gallant ein dysgu am themâu megis hunaniaeth, diwylliant materol, ffydd, rhyfel a gwleidyddiaeth.
Seminar 10: Casgliad
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu’n effeithiol wrth wneud gwaith grŵp, yn benodol wrth drafod gwendidau a rhagoriaethau gwahanol ffynonellau hanesyddol a llenyddol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, o safbwyntiau ac o nodweddion personol, yng nghyd-destun dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd greadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitro cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu yn ôl y galw, er mwyn gwella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i astudio, i ddadansoddi ac i drafod barddoniaeth fel ffynhonnell lenyddol a hanesyddol. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r we yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6