Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol sy’n rhan o’r pecyn (1,500 o eiriau). | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Pecyn o dasgau creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio o’r gweithdai creadigol (3,500 o eiriau). | 60% |
Asesiad Semester | Pecyn o dasgau creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio o’r gweithdai creadigol (3,500 o eiriau) | 60% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol sy’n rhan o’r pecyn (1,500 o eiriau). | 30% |
Asesiad Semester | Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol. | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) sy’n ymateb yn greadigol ac yn ddeallusol i bynciau rhagosodedig y gweithdai.
2. Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb yn greadigol ac yn ddeallusol i adborth, ar papur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod y gweithdy).
3. Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.
4. Llunio pedwar darn o waith creadigol gorffenedig, ynghyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arnynt, sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol ar y pecyn creadigol a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith trwy amlygu materion theoretig ac thechnegol, a thrwy sylwebu ar y prosesau creadigol goddrychol sydd ar waith.
Gan fod disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.
Cynnwys
• Creadigrwydd ac Ymchwil mewn Ysgrifennu Creadigol
• Ffurf a Strwythur:
• Rhyddiaith (ffurfiau estynedig a byrion; nofel – stori fer – llên meicro)
• Barddoniaeth (ffurfiau bach)
• Plot
• Disgrifio
• Safbwynt
• Pobl
• Llais: cyfansoddi a pherfformio
• Deialog
• Diwygio, golygu a chaboli testunau creadigol
Dosberthir canllawiau ysgrifenedig ar gyfer y sylwebaeth feirniadol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun theoretig/thematig y gweithdy. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweler rhif 4. |
Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol. |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grwp yn ystod y gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer pob tasg yn amlygu effaith y gweithdai trwy esbonio’r datblgyiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir Microsoft Office i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6