Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o dasgau 4000 o eiriau | 100% |
Asesiad Semester | Portffolio o dasgau 4000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
dangos ymwybyddiaeth o’r defnydd o’r iaith Gymraeg yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau cyhoeddus a phreifat Cymru.
dangos dealltwriaeth o brif ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gyda golwg ar weithredu Cynllun Iaith y Gymraeg.
Myfyrio ar y gwahanol gyd-destunau gweinyddol lle defnyddir yr iaith yn y gymdeithas.
Cloriannu’r defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau gan sylwi ar gryfderau a gwendidau, a gwahaniaethau rhwng arferion da a gwael.
Meithrin agwedd hyderus wrth weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg gan droi llaw at lunio dogfennau, eu golygu a’u cyfieithu.
bod yn ymwybodol o’r prif gynorthwyon printiedig ac electronig a ddefnyddir gan sefydliadau sy’n gweinyddi’ bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
cynhyrchu portffolio proffesiynol ei ddiwyg a’i gynnwys ar sail eu cyfnod profiad gwaith.
trafod yn hyderus a graenus ganlyniadau eu hymchwiliadau yn ysgrifenedig.
Gweithredu fel unigolyn cyfrifol ac fel aelod llawn o dîm yn y dosbarth ac yn y gweithle.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn ychwanegiad gwerthfawr at ddarpariaeth academaidd a galwedigaethol yr Adran ac yn fodd i ganolbwyntio meddyliau’r myfyrwyr ar y defnydd cynyddol a wneir o’r Gymraeg yn y byd gwaith yng Nghymru. Bydd yn bont effeithiol rhwng y ddarlithfa a’r byd tu allan, ac yn rhoi i’r myfyrwyr brofiad ymarferol o weld yr iaith ar waith, gyda golwg ar eu cyfeirio at ymgymryd â swyddi gweinyddol ar ôl graddio.
Nod
Mae’r modiwl hwn yn creiddiol i fyfyrwyr Q5P0 ar Lefel 2 ac yn rhan o’r arlwy ar y radd Cymraeg Proffesiynol. Maer modiwl yn gosod sylfaen alwedigaethol gref i Rhan 2 Q5P0 (Cymraeg Proffesiynol) ac yn bwysig i agenda cyflogadwyedd yr Adran.
Cynnwys
Edrychir yn benodol ar y defnydd o’r iaith yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau preifat a chyhoeddus Cymru, a bydd lleoli’r myfyrwyr ar brofiad gwaith yn rhai ohonynt yn eu galluogi i ddysgu’n uniongyrchol sut y defnyddir y Gymraeg yn y gweithle.
Semester 1
1. Cyflwyniad i’r modiwl
2. Llunio CV
3. Y Gymraeg yn ein sefydliadau 1
4. Y Gymraeg yn ein sefydliadau 2
5. Cyfieithu a Deddfwriaeth Iaith Gymraeg
6. Gweinyddu trwy’r Gymraeg
7. Cyfathrebu yn y Gweithle : dibenion a chynulleidfaoedd
8. Iaith yn y gweithle
9. Gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg 1
10. Gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg 2.
Semester 2
1. Golygu a phrawf-ddarllen testun print.
2. Dysgu Cymraeg i Oedolion.
3. Sut i wneud cyflwyniad llafar.
4. Dylunio gwefan lwyddiannus
5. Cyflwyniadau llafar myfyrwyr 1.
6. Cyflwyniadau llafar myfyrwyr 2.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu’n broffesiynol ac mewn cywair addas ar lafar ar yn ysgrifenedig, yn y gwahanol leoliadau gwaith ac yn y portfolio. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r modiwl yn ei gynnig ei hun ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus a phreifat. Disgwylir i bob myfyriwr lunio CV a’i gynnwys yn y portffolio. |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol o’r gwaith o baratoi ar gyfer y cyfnod o brofiad gwaith a hefyd o’r dyletswyddau a cgyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd gofyn datrys problemau trwy gyd-drafod a rhannu profiadau. |
Gwaith Tim | Bydd gofyn ymddwyn fel aelod o dîm wrth weithio â chydweithwyr yn y gweithle. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae’r portffolio a asesir yn gyfle i fyfyrwyr fyfyrio’n feirniadol ar berfformiad unigol yn ystod ac ar ôl y cyfnod o brofiad gwaith. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r modiwl yn ymwneud yn uniongyrchol â sgiliau gweinyddu trosglwyddadwy. |
Sgiliau ymchwil | Chwilio am ffynonellau printiedig ac ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth, gan ymgyfarwyddo â ffynonellau gwybodaeth electronig. |
Technoleg Gwybodaeth | Ymgyfarwyddo â safleoedd perthnasol ar y we a’r meddalwedd a ddefnyddir gan weinyddwyr CYmraeg eu hiaith. Prosesu geiriau wrth baratoi’r portffolio. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5