Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 1 (Dehongliadau cwiar): gwerthfawrogiad beirniadol o un testun. (Bydd angen cytuno ar y testun gyda darlithwyr y modiwl) - 2,000 o eiriau | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 2 (hunaniaeth gwiar agored): traethawd beirniadol - 3,000 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Aseiniad 1 (Dehongliadau cwiar): gwerthfawrogiad beirniadol o un testun. (Bydd angen cytuno ar y testun gyda darlithwyr y modiwl) - 2,000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Aseiniad 2 (hunaniaeth gwiar agored): traethawd beirniadol - 3,000 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o’r fframwaith theoretig rhyweddol a chwiar ehangach.
2. Adnabod a thrafod prif dueddiadau yn y maes a’u hoblygiadau i’r broses o drafod a dehongli’r testunau gosod.
3. Medru gosod awduron penodol yn eu cyd-destun hanesyddol, llenyddol, neu ddiwylliannol, ynghyd â’r cyd-destun cwiar.
4. Medru adnabod a thrafod prif nodweddion y ffurfiau a’r genres a ddefnyddir gan awduron penodol.
5. Pwyso a mesur cynnyrch a themâu llenorion unigol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddehongli ystod o destunau cyfoes Cymraeg (cyfarwydd ac anghyfarwydd) o’r newydd â phwyslais ar rywedd a rhywioldeb. Cyflwynir fframwaith beirniadol Eingl-Americanaidd a Chymreig theori cwiar, a thrafodir testunau o safbwynt dehongliadau a hunaniaeth gwiar agored. O ran genre, astudir testunau barddoniaeth, rhyddiaith, drama a ffilm.
Cynnwys
Elfennau Theori Cwiar (y cyd-destun Eingl-Americanaidd)
Elfennau Theori Cwiar (y cyd-destun Cymreig): darllenir testunau beirniadol Cymraeg a Chymreig yn agos gyda’r myfyrwyr er mwyn dangos eu perthynas â’r cyd-destun Eingl-Americanaidd ac er mwyn gwerthfawrogi hefyd ‘Gymreigrwydd’ y testunau barddoniaeth, rhyddiaith, drama a ffilm a astudir.
Testunau penodol: agweddau ar lenyddiaeth a diwylliant cwiar
Dehongliadau cwiar: ffuglen John Gwilym Jones a Kate Roberts, a dramâu Aled Jones Williams.
Hunaniaeth gwiar agored mewn barddoniaeth: e.e. ‘Atgof’ E. Prosser Rhys ac ‘Olion’ Gwynfor Dafydd.
Hunaniaeth gwiar agored mewn ffuglen: Mihangel Morgan, e.e. ‘Brenhines ein Llên’: Te Gyda’r Frenhines (1994), Tair Ochr y Geiniog (1996), Croniclau Pentre Simon (2003), Pantglas (2011).
Hunaniaeth gwiar agored ar lwyfan: e.e. Dafydd James, Llwyth (2010) a Tylwyth (2020).
Hunaniaeth gwiar agored mewn ffilm: e.e. Gadael Lenin (1993), Dafydd (1995) a Bydd yn Wrol (1998).
(Gall y testunau newid mewn ymateb i ddiddordebau’r grŵp)
Cynhelir dau weithdy wythnosol a threfnir sesiynau ychwanegol, yn ôl y galw, i wylio’r dramâu a’r ffilmiau a astudir.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniadau ysgrifenedig. Bydd gweithdai yn cynnwys elfen gref o drafod ond nid asesir trafodaethau grŵp yn ffurfiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun beirniadol a hanesyddol ac o destunau penodol. |
Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg. |
Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer asesiadau ysgrifenedig a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol. |
Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5