Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
CY20620
Teitl y Modiwl
Pedair Cainc y Mabinogi
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2,000 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd (2,000 o eiriau) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Darllen a deall un o destunau pwysicaf Cymraeg Canol yn yr iaith wreiddiol.
2. Trafod y testunau yn briodol yn eu cyd-destun yn yr Oesoedd Canol.
3. Trafod y testunau mewn cyd-destun llenyddol, yn benodol o ran technegau naratif, cymeriadaeth, syniadaeth ac adeiladwaith.
4. Adnabod a thrafod agweddau beirniadol penodol ar hanes ysgolheictod y pedair cainc, gan gynnwys y dadleuon o blaid ac yn erbyn ystyried y pedair cainc yn gyfanwaith llenyddol unedig.
Disgrifiad cryno
Mae Pedair Cainc y Mabinogi’n drysorau llenyddol o bwys rhyngwladol. Mae eu poblogrwydd yn amlwg heddiw yng Nghymru a thu hwnt, a’u pwysigrwydd yn ddi-gwestiwn ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Ni fyddai astudiaeth o lenyddiaeth yr Oesoedd Canol yn gyflawn hebddynt.
Canolbwyntir ar agweddau llenyddol y ceinciau, eu harddull, eu hadeiladwaith, eu cymeriadaeth a’u technegau naratif. Hefyd trafodir syniadau’r prif ysgolheigion yn y maes hwn. Yn y dosbarthiadau testunol rhoddir sylw arbennig i strwythur un o’r ceinciau a gwneir cymhariaeth rhyngddi a’r ceinciau eraill. Mae hefyd yn gyflwyniad defnyddiol i’r ddisgyblaeth o ddarllen testunau rhyddiaith Cymraeg Canol.
Arweinir y myfyrwyr drwy bob un o’r pedair cainc yn eu tro, gan roi sail gadarn iddynt o ran yr hyn y mae’r cymeriadau’n ei wneud ac o ran llif y stori. Darllenir un gainc yn fanwl ac fe ddarllenir rhai darnau o’r tair cainc arall. Canolbwyntir ar y cymeriadau byw a chyffrous a bortreadir yn y gwaith. Archwilir y rhesymeg waelodol sy’n sail i’r ceinciau unigol o ran eu hadeiladwaith, ac fe’u cymharir a’i gilydd er mwyn gofyn i ba raddau y gellir ystyried y pedair cainc yn gyfanwaith. Ystyrir hefyd ai un storiwr dawnus a roddodd y cyfan at ei gilydd, ynteu a fu mwy nag un storiwr ar waith?
Defnyddir y delweddau digidol o’r llawysgrifau lle diogelwyd y pedair cainc, sef Llyfr Gwyn Rhydderch (o’r Llyfrgell Genedlaethol dafliad carreg i ffwrdd i lawr y bryn) a Llyfr Coch Hergest, ynghyd â’r golygiadau diweddaraf o’r testunau.

Cynnwys
2 awr o ddarlithoedd yr wythnos am gyfnod o 10 wythnos: y naill awr yng ngofal Eurig Salisbury (cefndir a chyd-destun) a’r awr arall yng ngofal Simon Rodway (darllen testun rhan o un gainc yn fanwl).
Wythnos 1: Cyflwyniad cyffredinol i’r pedair cainc ac i’r testun a astudir
O hynny ymlaen, yr hyn a wna SR yw gweithio’n raddol drwy’r testun o wythnos i wythnos. Darllenir rhan o’r bedwaredd gainc, Math fab Mathonwy (noder ei bod yn bosib y dewisir un o’r ceinciau eraill).
Yr hyn a wna ES yw canolbwyntio ar y tair cainc arall ac ar y themâu a gwyd yn y pedair cainc ynghyd:
Wythnos 2 + 3: y gainc gyntaf, Pwyll Pendefig Dyfed
Wythnos 4 + 5: yr ail gainc, Bendigeidfran fab Llŷr
Wythnos 6 + 7: y drydedd gainc, Manawydan fab Llŷr
Wythnos 8: cymeriadau’r pedair cainc
Wythnos 9: awduraeth y pedair cainc
Wythnos 10: casgliadau

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Ceir yn y darlithoedd elfen o drafod a chyd-ddarllen, ac anogir y myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol yn hyn o beth. At hynny, disgwylir i’r myfyrwyr gyfrathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig wrth lunio’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
Datrys Problemau | Datblygir drwy’r darlithoedd allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn ymwneud a darllen yn fanwl destunau Cymraeg Canol. |
Gwaith Tim | Anogir y myfyrwyr i drafod a chyd-ddarllen yn y darlithoedd wrth astudio’r testunau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir y myfyrwyr i wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau Cymraeg Canol yn wythnosol. |
Rhifedd | Mae rhoi ystyriaeth i berthynas gwahanol destunau yn ôl y dyddiadau pan gawsant eu creu yn rhan o’r gwaith. |
Sgiliau pwnc penodol | Y gallu i ddarllen a deall testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol, a thrwy hynny i ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw. |
Sgiliau ymchwil | Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn y ddau aseiniad. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac i ddod o hyd i ddelweddau o rai o’r ffynonellau perthnasol ar lein (er enghraifft, Llyfr Gwyn Rhydderch ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5