Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1 Awr Ail sefyll y rhan a fethir | 50% |
Arholiad Semester | 1 Awr Trafodaeth lafar ar ffurf viva fechan ar agweddau o gyfraith Cymru | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ail sefyll y rhan a fethir | 50% |
Asesiad Semester | Prosiect ymchwil ar agwedd o gyfraith Cymru o ddewis (3,000 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangoes lefel uchwl o allu thrafod agweddau penodol a manwl o gyfraith a pholisi datganoledig Cymru mewn modd sydd yn briodol ar gyfer gwaith academaidd.
2. Dangos dealltwriaeth feirniadol a soffistigedig o'r gwahaniaethau mewn sylwedd rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr, ac oblygiadau hynny mewn ymarfer.
3. Egluro'n fanwl polisiau Cymreig yng nghyd-destu cyfreithiau rhanbarthau eraill y du, Cymru a Lloegr fel awdurdodaeth a'r DU fel gwladwriaeth.
4. Egluro'n fanwlarwyddocad cyfreithiau a pholisiau datganoledig, ac sut mae newidiadau yn yr rhain yn effeithio ar hawliau a budddiannau yr unigolyn.
5. dangos tystiolaeth fanwl o ymchwil annibynnol, a dadansoddi arwyddocad yr ymchwil hwnnw, gyda chyfeirnodi priodol.
6. dangos dealltwriaeth fanwl o gryfderau a gwendidau cyfraith a pholisi Cymru o fewn cyd-destun y setliad datganoli.
7. Dangos dealltwriaeth feirnadol a manwl o ragolygon Cyfraith Cymru at y dyfodol.
Disgrifiad cryno
Ers 1999, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu deddfu ar sawl maes cyfreithiol, ac erbyn hyn y mae sawl agwedd o gyfraith Cymru sydd yn wahanol iawn i gyfraith Lloegr. Amcan y modiwl hwn felly fydd i drin a thrafod rhai o’r materion hyn, sef cyfaith gofal iechyd, cyfraith addysg, cyfraith tai, a dwyieithrwydd yn y gyfraith.
Cynnwys
2. Iechyd a chyfraith a pholisi iechyd
3. Addysg yng Nghymru
4. Cartrefi a thai
5. Dwyieithrwydd cyfreithiol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Sgiliau ysgrifenedig a sgiliau trafod ar lafar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu hyder ar gyfer cyfweliadau. |
Datrys Problemau | Canfod a dewis deunyddiau perthnasol. |
Gwaith Tim | Trafodaethau o fewn y sesiynau grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymateb i sylwadau ac adborth. |
Rhifedd | Peth gwaith efo ystadegau. |
Sgiliau pwnc penodol | Dealltwriaeth o’r gyfraith. Cyflwyno dadl. Ysgrifennu a chyflwyno ar lafar. |
Sgiliau ymchwil | Prosiect ymchwil a gwaith paratoi. |
Technoleg Gwybodaeth | Gwaith ymchwil a chanfod deunyddiau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6