Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Unigol (1,500 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Os methwyd cyflwyniad llafar i gwblhau aseiniad 1,500 gair ar y pwnc a osodwyd. | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar Unigol (10 munud) | 50% |
Asesiad Semester | Adroddiad Unigol (1,500 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Adolygu a gwerthuso amrywiaeth o destunau, damcaniaethau a chysyniadau allweddol yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu.
Cymhwyso cysyniadau troseddegol a seicolegol damcaniaethol i ddigwyddiadau cyfoes a materion yn ymwneud â throseddu, rheolaeth gymdeithasol a chyfiawnder troseddol.
Deall, defnyddio a chyfleu dadleuon allweddol am faterion troseddegol a seicolegol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gallu llunio dadleuon troseddegol a seicolegol rhesymegol, a’u cyfiawnhau, mewn gwaith ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar a thrafodaethau gwaith grŵp.
Dangos dealltwriaeth o’r prif ddamcaniaethau, cysyniadau, trafodaethau ac ymdriniaethau ym maes troseddeg a seicoleg troseddu.
Dangos dealltwriaeth o’r ffordd y mae troseddu, ymddygiad gwyrdroëdig ac erledigaeth yn cael eu llunio a’u harchwilio’n gymdeithasol, yn gyfreithiol ac yn seicolegol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr lefel 1 fynd i’r afael â rhai o’r testunau a’r dadleuon allweddol ym meysydd troseddeg a seicoleg troseddu. Ar sail y sylfeini damcaniaethol a ddatblygwyd yn ystod semester 1, bydd y myfyrwyr yn ystyried digwyddiadau cyfoes a materion yn ymwneud â throseddu, ymddygiad gwyrdroëdig, rheolaeth, dioddefoleg a niwed (gweler e.e. Hillsborough; Grenfell; Brexit ac ati). Bydd ffocws cymhwysol y modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr osod eu dealltwriaeth o ddamcaniaethau, cysyniadau a thrafodaethau o fewn cyd-destunau cymdeithasol, cyfreithiol, seicolegol, hanesyddol ac economaidd ehangach. Nod y modiwl yw annog myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau dadansoddol a beirniadol mewn perthynas â’r wybodaeth y maent wedi’i datblygu hyd yma.
Cynnwys
Bydd y darlithoedd yn cael eu defnyddio i gyflwyno’r myfyrwyr i ofynion y modiwl. Byddant hefyd yn cyflwyno’r myfyrwyr i faterion, trafodaethau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau’r gweithdai a’r asesiad grŵp.
Trwy gydol cyfres seminarau’r modiwl, bydd gan y myfyrwyr gyfle i ddarllen, cloriannu a thrafod testunau allweddol a dylanwadol sy’n berthnasol i droseddeg a seicoleg troseddu. Anogir y myfyrwyr i ystyried dylanwadau ehangach ac etifeddiaeth y cyfraniadau hyn ar draws disgyblaethau perthnasol amrywiol.
Ym mhob seminar, gofynnir i’r myfyrwyr ddarllen testun penodol neu baratoi trafodaeth ar bwnc penodol. Defnyddir y seminarau i alluogi myfyrwyr i fagu hyder wrth ddarllen a deall testunau allweddol.
Defnyddir cyfres o weithdai trwy gydol y modiwl i roi cyfle i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn gwaith grŵp, gan gymhwyso damcaniaethau a chysyniadau troseddegol i ddigwyddiadau, materion a thrafodaethau cyfoes.
Oherwydd natur gymhwysol a chyfoes y modiwl, bydd yr union gynnwys yn newid bob blwyddyn.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llafar Unigol: Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy roi cyflwyniadau mewn seminarau yn rhan o’u hasesiad. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. Poster Grŵp: Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu grŵp ymhellach wrth baratoi a rhoi cyflwyniad poster ac wrth ymateb i gwestiynau. Adroddiad Ysgrifenedig: Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu, ac asesir eu cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith cadarn, a’u gallu i lunio dadl gydlynol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd paratoi ar gyfer y seminarau a’r aseiniadau asesedig yn datblygu sgiliau rheoli amser. Bydd cymharu ffynonellau ar gyfer asesiadau yn datblygu sgiliau ymchwil. Bydd meithrin gwerthfawrogiad o faterion damcaniaethol cymhleth a’u cymhwyso i faterion a digwyddiadau cyfoes yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol. Bydd yr holl sgiliau hyn yn cyfrannu at bortffolio ehangach y myfyriwr o sgiliau trosglwyddadwy. |
Datrys Problemau | Bydd gofyn i’r myfyrwyr ystyried, trafod a defnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau a chysyniadau yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu. Yna, bydd disgwyl iddynt ddatblygu eu sgiliau datrys problemau a meddwl ochrol trwy gymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i faterion a digwyddiadau cyfoes perthnasol. |
Gwaith Tim | Bydd y gweithgareddau yn y gweithdai yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm, a bydd y cyflwyniad poster grŵp yn golygu bod angen datblygu’r gallu i weithio mewn tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac ochrol gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain. |
Rhifedd | Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i gysyniadau allweddol darllen a deall astudiaethau yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu. Bydd gofyn iddynt ymdrin â data empirig a bydd gofyn eu bod yn gallu deall natur ymchwil wyddonol gymdeithasol yn ei amryw ffurfiau. |
Sgiliau pwnc penodol | Amherthnasol. |
Sgiliau ymchwil | Mae astudio troseddeg yn gofyn am y gallu i ddarllen yn hyderus ar draws amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau ymchwil a disgyblaethau. Mae’r modiwl yn annog datblygu’r gallu hanfodol hwn |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd chwilio am ddeunydd o ffynonellau gwybodaeth electronig ar-lein a chyrchu gwybodaeth o gyfnodolion electronig yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Defnyddir sgiliau TG i gael gafael ar wybodaeth ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno gwaith i’w asesu wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4