Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 2 Ailadrodd yr elfen a fethwyd. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 1 Ailadrodd yr elfen a fethwyd. | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 1 (1,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 2 (1,500 o eiriau) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Deall sut i ysgrifennu a chyfeirio mewn ffordd academaidd gadarn.
Deall hanfodion datblygu a dylunio ymchwil.
Cynnal ceyfweliad ansoddol.
Llunio a defnyddio holiadur arolwg sylfaenol.
Meddu ar ddealltwraieth ddatblygol fanteision a chyfyngiadau dyluniadau dulliau meintiol, ansoddol chymysg.
Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol o sut i asesu astudiaethau ymchwil troseddegol empirig yn feirniadol.
Disgrifiad cryno
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, datblygu sgiliau arsylwi a chynnal cyfweld ac arolygu un i un.
Cynnwys
Ysgrifennu a chyfeirio academaidd Dyluniad ymchwil
Moeseg ymchwil
Dyluniad holiadur
Cyfweld ansoddol
Methodelegau dadansoddi ansoddol sylfaenol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu sut i ysgrifennu i safon academaidd uchel, a sut i gymhwyso cyfeiriadau Harvard i'w gwaith, a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu cyhoeddiadau ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl hwn wedi'i wreiddio'n fawr yn y byd go iawn, a sut y gellir cynnal ymchwil gyda phobl go iawn. Bydd y ddau aseiniad yn gofyn iddynt redeg gweithgaredd ymchwil gyda rhywun y tu allan i'r cwrs, a myfyrio ar ba mor dda y gweithiodd yr offer gyda phobl go iawn mewn cymdeithas. |
Datrys Problemau | Mae ethos cyfan y modiwl yn troi o gwmpas datrys problemau. Dyma hanfod ymchwil gwyddorau cymdeithasol ac felly bydd y modiwl yn ymwneud yn helaeth ag annog a meithrin y sgil hon. |
Gwaith Tim | Bydd y ddau aseiniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyrwyr weithio gydag un arall i gynhyrchu a) amserlen gyfweld a b) holiadur arolwg (er y bydd yr aseiniadau'n cael eu hysgrifennu'n unigol). Bydd y seminarau a'r gweithdai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd drwyddi draw mewn ffordd ymarferol iawn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dyluniadau eu hunain o gyfweliad ac arolwg, sy'n gofyn am lefel dda o fyfyrio personol ar eu datblygiad a'u dysgu eu hunain. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil, pe byddent yn penderfynu ymgymryd a thraethawd hir empirig yn eu trydedd flwyddyn. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddylunio a chynnal eu cyfweliad a'u harolwg eu hunain, ac yna dadansoddi'n feirniadol pa mor dda y gweithiodd eu dyluniad mewn gwirionedd. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu deunyddiau ar Blackboard, ond hefyd i ddefnyddio rhaglen arolwg ar-lein i gwblhau eu hail aseiniad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4