Gwybodaeth Modiwlau
Module Identifier
CB35120
Module Title
Arweinyddiaeth Strategol
Academic Year
2021/2022
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Other Staff
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Adroddiad ysgrifenedig (2,500 gair) | 40% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad | 60% |
Supplementary Assessment | Adroddiad ysgrifenedig (2,500 gair) | 40% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Esbonio a chymhwyso arfau ar gyfer dadansoddi’r amgylchedd busnes mewnol ac allanol.
2. Cloriannu’n feirniadol faterion yn ymwneud â phroses, cynnwys a chyd-destun strategaethau busnes.
3. Gwerthuso prif theorïau strategaeth yn feirniadol.
4. Cloriannu segmentau cwsmeriaid.
5. Ystyried dulliau creadigol o lunio strategaethau busnes.
6. Cynnig ac amddiffyn gwelliannau i’r modd y gwneir penderfyniadau strategol mewn sefydliadau.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn meithrin dealltwriaeth o’r broses o ddatblygu strategaeth, ac yn dangos mor bwysig yw strategaeth fusnes i’r cwmni ei hun, i wahanol randdeiliaid ac i’r gymuned fusnes ehangach. Mae’r modiwl yn edrych ar y llu o wahanol ffyrdd (sydd yn aml yn gwrthdaro â’i gilydd) o lunio strategaeth fusnes; yn ystyried sut mae strategaeth yn gweithredu yn yr amgylchedd busnes mewnol ac allanol ehangach; ac yn darparu’r sgiliau a’r
wybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau strategol effeithiol a gwybodus, arwain newid, a chreu a chynnal mantais gystadleuol.
wybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau strategol effeithiol a gwybodus, arwain newid, a chreu a chynnal mantais gystadleuol.
Content
Beth yw strategaeth?
Mantais gystadleuol
Llunio Strategaeth
Dadansoddi Strategaeth
Strategaeth ar waith
Archwiliad marchnata (Dadansoddi Sefyllfaoedd);
Segmentiad, Targedu a Lleoli;
Partneriaethau Strategol;
Penderfyniadau Marchnata Strategol;
Strategaeth a’r Cymysgedd Marchnata;
Rheoli Brand yn Strategol;
Cloriannu a Rheoli
Mantais gystadleuol
Llunio Strategaeth
Dadansoddi Strategaeth
Strategaeth ar waith
Archwiliad marchnata (Dadansoddi Sefyllfaoedd);
Segmentiad, Targedu a Lleoli;
Partneriaethau Strategol;
Penderfyniadau Marchnata Strategol;
Strategaeth a’r Cymysgedd Marchnata;
Rheoli Brand yn Strategol;
Cloriannu a Rheoli
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Dadansoddi adroddiadau ariannol ac adroddiadau eraill sy’n seiliedig ar wybodaeth rifyddol |
Communication | Datblygu sgiliau cyfathrebu gan gynnwys sgiliau cyflwyno a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd trwy ddarllen ac ysgrifennu am reolaeth strategol |
Improving own Learning and Performance | Llunio strategaethau hunan-ddysgu realistig, a’u rhoi ar waith. Adolygu a monitro’u perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser |
Information Technology | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn eang, paratoi a dadansoddi data, cyflwyno gwybodaeth |
Personal Development and Career planning | Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn i wella’u cyfleoedd gyrfaol. Byddant hefyd yn gallu cynllunio’n strategol ar gyfer yr hirdymor yn eu dewis yrfa. |
Problem solving | Nodi problemau. Datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision. Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem |
Research skills | Cynnal ymchwil ar reolaeth strategol. Dod o hyd i ddeunydd ffynhonnell perthnasol ar gyfer aseiniadau ac astudiaethau achos |
Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn gallu deall, dadansoddi a datblygu cynlluniau strategol yn eu dewis yrfa a’u sefydliad |
Team work | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp, cyfrannu’n effeithiol i weithgareddau grŵp, cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a gwaith cwrs a asesir, arfer sgiliau negod |
Notes
This module is at CQFW Level 6