Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr sefyll elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb a'r rheini a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Asesiad Semester | Traethawd hir (8,000 gair) | 80% |
Asesiad Semester | Dyddlyfr x 1 | 10% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar (10 munud) | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
2. Dynodi a defnyddio technegau priodol ar gyfer cynllunio astudiaethau a dadansoddi data.
3. Llunio casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.
4. Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil a llunio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
5. Defnyddio sgiliau ysgrifennu a TG priodol i gyflwyno’r cyd-destun, y data, y canlyniadau a’r casgliadau mewn traethawd ymchwil.
6. Dynodi a chyflwyno themau allweddol y traethawd hir ar ffurf cyflwyniad llafar.
7. Dangos, a myfyrio ynghylch, proses a chynnydd eu hymchwil.
Disgrifiad cryno
Mae modiwl y traethawd estynedig yn brofiad uchafbwyntiol ar y lefel raddedig sy’n meithrin sgiliau a gwybodaeth y myfyrwyr. Bydd y modiwl yn gyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil manwl ar bwnc sy’n berthnasol i’w gradd neu eu diddordebau. Bydd llawer o’r prosiectau’n seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes; gallai eraill gynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol yn seiliedig ar ffynonellau data eilaidd. Bydd eraill yn cynnwys dadansoddi data o destunau cyhoeddedig. Bydd yr holl brosiectau, beth bynnag eu ffurf, yn golygu bod rhaid i fyfyrwyr weithio’n annibynnol dan arweiniad goruchwyliwr, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi data, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno’r cyfan ar ffurf traethawd estynedig.
Cynnwys
Bydd darlith gyflwyniadol yn y semester cyntaf yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio ar gyfer y Traethawd. Yn yr ail semester, cynhelir cymorthfeydd galw heibio wythnosol dewisol i gynnig cyngor ar agweddau penodol o baratoi'r Traethawd Estynedig.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â’r prosiect yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod y cyfarfodydd goruchwylio, a asesir ym mhob aseiniad. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio'r elfennau ysgrifenedig. Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu wrth greu’r seminar ymchwil. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy wrth werthuso a chymhwyso casgliadau ymchwil newydd. |
Datrys Problemau | Mae'r sgil hwn yn elfen allweddol o'r modiwl, a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddadansoddi data cynradd a/neu eilaidd yn feirniadol, dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl a defnyddio meddwl creadigol i ddatblygu datrysiadau priodol. |
Gwaith Tim | Nid yw'n elfen benodol o'r modiwl hwn er y bydd gofyn i rai myfyrwyr weithio gydag aelodau eraill o grŵp labordy neu grŵp ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr traethawd hir eraill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn dyfeisio cynlluniau gweithredu personol i gynnwys amcanion tymor byr a thymor hir, ynghyd ag adolygu a monitro cynnydd, a diwygio cynlluniau gweithredu fel bo'n briodol i wella perfformiad cyffredinol, a asesir drwy’r Dyddlyfr. |
Rhifedd | Bydd y modiwl hwn yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth fathemategol gyffredinol ynghyd a'i defnyddio mewn cyd-destunau ymarferol (e.e. mesur, pwyso a chymhwyso fformiwlau) yn ol natur y prosiect. Bydd myfyrwyr hefyd yn caffael neu ddehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd unrhyw sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir yn dibynnu ar natur y prosiect ymchwil e.e. hyfforddiant mewn dilyniannu a dadansoddi DNA, cynllunio holiadur, arsylwi ymddygiad ac ati. |
Sgiliau ymchwil | Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil sy'n gofyn bod myfyrwyr yn deall ac yn gwerthuso amrywiaeth o ddulliau a gweithdrefnau ymchwil, cynllunio ac ymgymryd ag ymchwil a llunio adroddiad academaidd (traethawd estynedig). |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn am ddefnyddio TG wrth chwilio am destunau cyhoeddedig, dadansoddi data, cyflwyno data a pharatoi’r elfennau ysgrifenedig a llafar. Asesir y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn y traethawd hir a’r cyflwyniad llafar. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6