Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Arholiad ysgrifenedig. Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 60% |
Arholiad Semester | 3 Awr Arholiad ysgrifenedig | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 40% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad seminar | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Adnabod cydrannau systemau cynhyrchu anifeiliaid.
2. Adolygu a gwerthuso llenyddiaeth wyddonol a gweithredu'r canlyniadau er mwyn datblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid.
3. Esbonio sut mae gwyddoniaeth yn medru cael ei ddefnyddio i wella systemau atgenhedlu, llaetha , tyfiant a datblygiad anifeiliaid fferm.
4. Trafod y materion moesegol a chymdeithasol sydd yn gysylltiedig gyda'r defnydd o wyddor anifeiliaid.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yma'n archwilio'r ffyrdd y mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid mwy effeithlon. Bydd seminarau a darlithoedd yn ymdrin ag amrediad o destunau amserol gan gynnwys technoleg atgenhedlu, dulliau dylanwadu llaetha a ffrwythlondeb, gwyddor cig, maeth anifeiliaid a gwelliannau geneteg.
Cynnwys
Technoleg ymhadu artiffisial
Systemau cynhyrchu gwartheg godro gan gynnwys:
Newid a gwella ansawdd llaeth
Rheoli mastitis yn y fuwch odro
Clefydau metabolig
Rheolaeth gwartheg yn y cyfnod trawsnewid
Systemau cynhyrchu cig gan gynnwys:
Strategaethau bwydo gwartheg biff, defaid a moch
Strategaethau rheoli parasitiaid yn y coluddyn
Gwyddor cig gan gynnwys y ffactorau sydd yn effeithio ansawdd bwyta cig
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Yn cael ei ddatblygu mewn seminarau a gwaith ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Bydd darlithoedd a seminarau yn datblygu ymwybyddiaeth o'r cydberthnasau cymhleth rhwng cydrannau systemau cynhyrchu anifeiliaid. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i adnabod a dadansoddi problemau, a bydd gwerthusiad o'r llenyddiaeth gwyddonol a'i defnydd yn darparu astudiaethau achos i arddangos sut mae gwyddoniaeth gymhwysol yn medru cael ei ddefnyddio i ddatrys problemau. Asesir mewn seminarau ag arholiad. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Yn datblygu sgiliau darllen a dehongli cyhoeddiadau gwyddonol, paratoi gwaith ysgrifenedig a chyflwyniadau seminar a gweithio i derfyn amser. |
Rhifedd | Dehongli cyhoeddiadau gwyddonol. Yn cael ei asesu mewn seminarau ac mewn arholiad. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Datblygir drwy astudio llenyddiaeth gwyddonol ag asesir trwy'r aseiniad a'r arholiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Asesir y defnydd o PowerPoint yn y cyflwyniad seminar. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6