Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG10810
Teitl y Modiwl
Datblygu a Rheoli Cynefinoedd ym Mhrydain
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  50%
Asesiad Semester Adroddiad (50 munud - mewn ddarlith)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Amlinellu eu dosbarthiad mewn ystod o systemau priodol;

2. Disgrifio'r ffactorau naturiol sy'n dylanwadu ar eu datblygiad;

3. Egluro rol dyn yn eu datblygiad hanesyddol;

4. Disgrifio'r rheolaeth a'r defnydd cyfredol ohonynt a phynciau sy'n codi o ganlyniad;

5. Adnabod eu gwerth, eu statws a'u potensial o ran cadwraeth.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhyngberthynas rhwng ffactorau naturiol a gweithrediadau gan ddyn sy'n arwain at ddatblygu'r prif grwpiau o gynefinoedd daearol a geir ym Mhrydain: coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd ar. Ystyrir y defnydd o'r cynefinoedd hyn at ddibenion masnachol amrywiol ochr yn ochr gwerth i fywyd gwyllt a'r tirwedd. Bydd y modiwl yn ystyried i ba raddau y gall gwahanol fathau o gynefin wasanaethu fel elfennau allweddol o dirwedd amlswyddogaethol; y pwysau ar y cynefinoedd hyn gan gystadleuwyr; a'r gorchmynion, y polisau a'r cynlluniau sydd mewn lle er mwyn dylanwadu ar reolaeth y cynefinoedd hyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Adroddiadau i'w hysgrifennu mewn arddull ysgrifennu gwyddonol briodol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Sgiliau maes.
Datrys Problemau
Gwaith Tim Bydd casglu data yn cael ei wneud mewn tîmoedd bychain.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd Gwneir peth dadansoddi cyfyngedig o ddata fel elfen o adroddiad a asesir.
Sgiliau pwnc penodol Adnabod planhigion yn y maes.
Sgiliau ymchwil Gall ymweliadau maes gynnwys peth casglu data.
Technoleg Gwybodaeth Cyflwynir data ar ffurf graffiau gan ddefnyddio Excel mewn adroddiadau a asesir.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4