Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Fforymau (1500 o eiriau). Gall myfyriwr ail-afael ag elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant modiwl. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Bwrdd stori, cais marchnata mewn ffurf stori ddigidol Gall myfyriwr ail-afael ag elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant modiwl. a ffeithlun ar dechnoleg fanwl. (Portfolio yn cynnwys bwrdd stori 500 o eiriau, fideo 2 funud a ffeithlun 300 o eiriau). | 45% |
Asesiad Ailsefyll | Modiwl Ddysgu ac Adroddiad Astudiaeth Achos (2 Awr o CADd ffurfiannol yn arwain at adroddiad 1000 o eiriau). Gall myfyriwr ail-afael ag elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant modiwl. | 35% |
Asesiad Semester | Bwrdd stori, cais marchnata mewn ffurf stori ddigidol a ffeithlun ar dechnoleg fanwl. (Portfolio yn cynnwys bwrdd stori 500 o eiriau, fideo 2 funud a ffeithlun 300 o eiriau) | 45% |
Asesiad Semester | Modiwl Ddysgu ac Adroddiad Astudiaeth Achos (2 Awr o CADd ffurfiannol yn arwain at adroddiad 1000 o eiriau) | 35% |
Asesiad Semester | Fforymau (1500 o eiriau) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Esbonio'r heriau cyfredol ac yn y dyfodol i'w datrys gan dechnolegau da byw manwl gywir.
2. Esbonio beth yw technolegau manwl a sut y gallant ac y maent wedi helpu i wella systemau cynhyrchu da byw.
3. Nodi lle y gall systemau cynhyrchu penodol ddefnyddio ymchwil ar dechnolegau da byw manwl gywir.
4. Cymharu'r defnydd o ddata da byw manwl gywir mewn gwahanol systemau cyflenwi.
5. Gwerthuso gwahanol ddulliau ar gyfer sicrhau bod sectorau penodol yn manteisio ar y technolegau hyn ac yn eu defnyddio'n barhaus.
Disgrifiad cryno
Yn benodol, bydd y modiwl yn edrych ar sut y gall technolegau manwl helpu cynhyrchwyr i nodi a gwella meysydd o'u busnes a ateb y galw am eu marchnadoedd. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar sut y gall technolegau manwl helpu i wella diogelwch bwyd, logisteg y gadwyn gyflenwi ac olrhain.
Cynnwys
• Yr heriau y gall technolegau manwl da byw eu datrys - cryfderau a chyfyngiadau technolegau manwl ar gyfer cynhyrchwyr
• Ymchwil ar dechnolegau cyfredol - defnyddiau newydd ar gyfer technolegau cyfredol, golwg ar ymchwil gyfredol i fuddion rhai technolegau
• Technolegau'r dyfodol - syniadau a chysyniadau
• Nodi technolegau perthnasol - Edrych ar ymchwil, dilysu, dylunio a datblygu technolegau newydd
• Trosglwyddo technolegau rhwng sectorau - addasu technolegau presennol i ehangu eu defnydd o fewn y diwydiant
• Defnyddio allbynnau technoleg manwl - Nodi sut y gall gwahanol sectorau â'r system gyflenwi ddefnyddio allbynnau o dechnolegau manwl
• Sicrhau defnydd a pharhad technolegau newydd - o fabwysiadwyr cynnar i neidio'r bwlch i'r brif ffrwd
• Astudiaethau Achos - defnyddio astudiaethau achos i nodi sut y gellir defnyddio technoleg fanwl
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyfleu allbynnau ymchwil cymhleth i'w cyfoedion yn y fforymau ar-lein, aseiniadau ysgrifenedig a'r stori ddigidol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn edrych ar rywfaint o'r ymchwil ddiweddaraf i dechnolegau manwl. Bydd y modiwl hefyd yn dysgu myfyrwyr sut i ddod o hyd i gyfyngiadau ar ymchwil ac i nodi sut y gallai diwydiant fabwysiadu technoleg newydd trwy'r aseiniadau Adroddiad a Marchnata ond ni fydd yn edrych yn benodol ar datblygiad personol a chynllunio gyrfa. |
Datrys Problemau | Defnyddir heriau dysgu ar sail problemau ochr yn ochr â postiadau fforwm ar-lein trwy gydol y modiwl i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr. |
Gwaith Tim | Bydd asesiadau ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddadlau ymysg ei gilydd i ddatblygu consensws barn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth manwl ar gyfer pob aseiniad fforwm. Bydd adborth yn darparu arweiniad cyffredinol tuag at fforwm nesaf y myfyriwr. Bydd y bwrdd stori ar gyfer y stori ddigidol yn cael ei gyflwyno cyn y stori ddigidol a disgwylir i'r myfyriwr ystyried yr adborth. |
Rhifedd | Bydd modiwl dysgu yn gofyn iddynt edrych ar ddata a'i ddadansoddi i'w gyflwyno yn yr adroddiad. |
Sgiliau pwnc penodol | Gwerthuso technolegau manwl newydd ar gyfer da byw ac ymchwil gyfredol yn y technolegau hyn. Hefyd y gallu i nodi defnyddiau posibl ar gyfer technolegau newydd a sut i gael diwydiant i'w mabwysiadu. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â hunan-astudio dan gyfarwyddyd, felly byddant yn datblygu eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o gronfeydd data cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd ar y modiwl. Mae creu eu stori ddigidol a ffeithlun yn gofyn am ddefnyddio technoleg. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7