Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Asesiad ysgrifenedig 1 (2,000 gair) | 50% |
Semester Assessment | Asesiad ysgrifenedig 2 (2,000 gair) | 50% |
Supplementary Assessment | Asesiad ysgrifenedig 1 (2,000 gair) | 50% |
Supplementary Assessment | Asesiad ysgrifenedig 2 (2,000 gair) | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos dealltwriaeth o natur a phwysigrwydd ymchwil mewn cyd-destun busnes a rheolaeth neu farchnata.
2. Dangos dealltwriaeth o wahanol ddulliau ymchwil, a’r gwahaniaethu rhyngddynt, gan gloriannu’n feirniadol oblygiadau moesegol pob un.
3. Canfod, dadansoddi a chloriannu testunau sy’n berthnasol i bwnc ymchwil penodol.
4. Casglu data cynradd ac eilaidd gan nodi a gwerthuso’r cyfyngiadau a manteision o ddefnyddio’r gwahanol ddulliau.
5. Dadansoddi a gwerthuso data gan ddefnyddio ystod o ddulliau a thechnegau.
6. Cyfleu casgliadau’r prosiect ymchwil yn briodol.
Brief description
Amcanion
Mae’r modiwl yma yn caniatau i fyfyrwyr ddysgu gwahanol sgiliau ymchwil a bydd yn eu darparu ag astudiaeth dreiddgar o ymchwil sy’n ymwneud â busnes. Bydd yn rhoi cyfwyniad cynhwysfawr iddynt i’r pwnc dulliau ymchwil busnes ac yn cynnwys hanfodion pob cysyniad ymchwil cymhwysol modern cyffredinol, dulliau a thechnegau.
Mae’r modiwl yma yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr Busnes a Rheolaeth o’r pwysigrwydd o weithredu dull gwrthrychol tuag at ymchwil a’r pwysigrwydd o ddysgu hunan-atblygol. Cyflwyna’r modiwl y myfyrwyr Busnes a Rheolaeth i’r arfer o ymchwilio, gan gynnwys moeseg a methodoleg, gan ddefnyddio dulliau ymchwil ansoddol a meintiol.
Content
Cyflwyniad i ddulliau ymchwil
Ffurfio Cwestiynau Ymchwil a Chreu Data
Ymchwilio testunau ac adolygu testunau
Wythnos adborth
Cynllunio Data Ansoddol
Casglu a Dadansoddi Data Ansoddol
Cynllunio Data Meintiol
Casglu a Dadansoddi Data Meintiol
Adolygu a Chynllunio Goblygiadau Rheolaethol
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd. |
Communication | Darllen ac ysgrifennu mewn gwahanol gyd-destunau ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion gwahanol. |
Improving own Learning and Performance | Sgiliau trefnu ac ymchwilio; datblygu eu harddull o ddysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion personol, a sut i ddysgu’n annibynnol. |
Information Technology | Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data ac wrth baratoi a chyflwyno adroddiad. |
Personal Development and Career planning | Hunan-reoli, blaengaredd, annibyniaeth a hunan-ymwybyddiaeth. |
Problem solving | Nodi problemau a ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posib; datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib; llunio cynnig rhesymegol mewn wrth ymateb i broblem. |
Research skills | Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol er mwyn paratoi wrth baratoi aseiniad. |
Subject Specific Skills | Cymhwyso sgiliau ansoddol a/neu meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a'r amgylchedd busnes presennol. |
Team work | Bydd y seminarau/darlithoedd yn cynnwys ymarferion grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 6