Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig | 70% |
Asesiad Semester | Asesu Parhaus: Cwestiynau wedi eu dewis | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos egwyddorion deddfau serofed a chyntaf thermodynameg a chymhwyso'r rhain i ddatrys problemau cysylltiedig.
2. Dangos egwyddorion damcaniaeth egni cinetig nwyon a chymhwyso y rhain i ddatrys problemau cysylltiedig.
3. Disgrifio lledaeniad ton mewn nodiant mathemategol a deall ei gymwysiadau.
4. Defnyddio egwyddorion sylfaenol opteg geometrig a ffisegol a disgrifio eu defnydd mewn offerynnau a thechnegau optegol.
5. Egluro diffreithiant a therfannau cydraniad offer optegol.
Nod
Mae'r modiwl yn cyflwyno ffiseg thermol gyda thrafodaeth o brosesau macrosgopig a microsgopig. Mae hefyd yn datblygu egwyddorion a thechnegau opteg geometregol a natur donnog golau. Gosodir pwyslais ar ddatrys problemau drwy daflenni enghreifftiau sy'n cynnwys ymarferion rhifiadol. Mae'r modiwl yn fodiwl craidd i gynlluniau gradd anrhydedd mewn ffiseg ac yn paratoi'r myfyrwyr i ddefnyddio'r testunau yn astudiaethau uwch Rhan 2.
Disgrifiad cryno
Opteg yw un o'r canghennau mwyaf llwyddiannus o ffiseg glasurol a gellir ei gymhwyso ymhob math o dechnoleg yn amrywio o ficrosgopeg i ffotoneg. Mae'r cwrs hwn yn rhoi theori sylfaenol tonnau, ac opteg geometregol a ffisegol. Caiff cymwysiadau o'r rhain mewn technoleg fodern eu trafod.
Cynnwys
1. Solidau: anffurfiad elastig, ehangiad thermol.
2. Nwy delfrydol: newidynnau cyflwr, newid cyflwr, hafaliad cyflwr, deddf nwy delfrydol.
3. Deddf serofed thermodynameg: cydbwysedd thermol, tymheredd a graddfeydd tymheredd.
4. Deddf gyntaf thermodynameg: egni mewnol, gwres, gwaith; prosesau isothermal, isobarig ac adiabatig; cynhwysedd gwres a gwres cudd.
5. Theori ginetig nwyon: deilliad gwasgedd drwy ystyriaethau mewn mecaneg, dosraniad Maxwell-Boltzmann; buaneddau isc-cymedr-tebygol; tymheredd a phoblogaeth lefelau egni.
TONNAU
1. Tonnau teithiol: tonfedd, amledd, cyflymder cydwedd, cyflymder grwp.
2. Enghreifftiau: tonnau ar linyn, tonnau swn tonnau electromagnetig.
3. Ffenomenau ton: arosodiad tonnau, effaith Doppler.
4. Hafaliad ton.
NATUR OPTEGOL A THONNOG GOLAU
1. Opteg geometregol a ffisegol a'u defnydd mewn offerynnau a thechnegau optegol.
2. Gwasgariad, ymyriant, diffreithiant (holltau unigol a lluosog).
3. Terfan i ddatrysyn offer optegol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn amlygu'r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y meysydd ac yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa. |
Datrys Problemau | Caiff sgiliau datrys problemau eu datblygu drwy gydol y modiwl a'u profi mewn aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r darlithoedd a'r gweithdai wedi eu cynllunio i annog dysgu hunan-gyfeiriedig ac i wella perfformiad. Asesir hwn drwy daflenni enghreifftiau. |
Rhifedd | Mae gan bob cwestiwn a osodir yn y taflenni enghreifftiau ac arholiadau ffurfiol broblemau rhifiadol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd y darllen cyfeiriedig yn galluogi myfyrwyr i ymestyn eu dealltwriaeth o'r darlithoedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael problemau i'w datrys yn y darlithoedd a bydd hyn yn golygu ymchwil yn y llyfrgell ac yn defnyddio'r rhyngrwyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio pynciau o fewn y modiwl gan ddefnyddio'r rhyngrwyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4