Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad poster (Poster cynhadledd) | 50% |
Asesiad Semester | Ffilm 5 munud (Ffilm astudiaeth achos (grŵp) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad poster (Poster cynhadledd) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Bwrdd stori ar gyfer ffilm 5 munud (Bwrdd stori, wedi ei gynhyrchu’n unigol ac wedi ei gyflwyno fel dogfen) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dadansoddi tueddiadau hanesyddol mewn digwyddiadau peryglus, a dangos dealltwriaeth o senarios yn y dyfodol.
2. Asesu risg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.
3. Cynnig strategaethau lliniaru effeithiol ar gyfer amrywiaeth eang o ddaearberyglon.
4. Creu ffilm sy'n cyfathrebu astudiaeth achos allweddol i gynulleidfa Safon Uwch.
Disgrifiad cryno
Yn Daearberyglon fe'ch cyflwynir i ddigwyddiadau peryglus ar draws y byd, gan archwilio’r prosesau ffisegol, effeithiau ar gymdeithas a strategaethau lliniaru ar gyfer peryglon o'r fath. Byddwch yn ystyried tueddiadau hanesyddol mewn peryglon, a rhagolygon y dyfodol mewn hinsawdd sy'n newid.
Cynnwys
Trafodir amrywiaeth o themâu, a all gynnwys tywydd eithafol, llifogydd, peryglon rhewlifol, peryglon seismig a folcanig, a pheryglon o’r gofod.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys: darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at wahanol ddibenion; ysgrifennu at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd; siarad mewn gwahanol gyd-destunau ac at wahanol ddibenion; cyfathrebu trwy asesiad ffilm. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o'u sgiliau personol, eu credoau a'u rhinweddau. |
Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn adnabod ffactorau a all ddylanwadu ar atebion lliniaru posib, gan werthuso manteision ac anfanteision atebion o’r fath. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o ddeinameg grŵp, yn cyfrannu at osod nodau grŵp, yn cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grŵp, ac yn chwarae rhan weithgar mewn gweithgareddau grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Heb ei asesu’n ffurfiol. |
Rhifedd | Bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â rhif, gan gynnwys dadansoddi ystadegau o dueddiadau. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o ddaearberyglon ym maes pwnc y myfyriwr. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn dadansoddi ffynonellau academaidd ac an-academaidd ac yn cynhyrchu adroddiadau academaidd priodol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd myfyrwyr yn defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin, ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu sy'n cynnwys gwybodaeth a data. Bydd myfyrwyr yn defnyddio technoleg ffilm. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5