Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio ymchwil ysgrifenedig rhan 1 (1000 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Portffolio ymchwil ysgrifenedig rhan 2 (1000 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio ymchwil ysgrifenedig rhan 1 (1000 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio ymchwil ysgrifenedig rhan 2 (1000 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Amlinellu’r gwahanol safwbyntiau deallusol a geir mewn daearyddiaeth ddynol a’r gwyddorau cymdeithasol cysylltiedig, a’r mathau o ddulliau a ddefnyddir gan y safbwyntiau hyn.
2. Llunio cwestiynau ymchwil, nodau, ac amcanion ymarferol.
3. Dethol dulliau priodol a’u cyfiawnhau yng nghyd-destun cwestiynau ymchwil, nodau, ac amcanion.
4. Gwerthuso manteision a chyfyngiadau ystod o dechnegau ansoddol mewn cyd-destunau ymchwil penodol.
5. Asesu’n feirniadol pragmatiaeth cyfosod technegau penodol ar waith.
Disgrifiad cryno
Trafoda’r modiwl hwn dulliau ymchwil ansoddol ar gyfer ymchwilio i bobl a lle. Llunnir y modiwl o gwmpas cyfres o ddarlithoedd sy’n cynnwys elfennau o weithdai er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r technegau allweddol, ac adeiladu gwybodaeth ymarferol o ddefnyddio dulliau ymchwil yn y maes.
Cynnwys
Mae’r modiwl yn cynnwys 9 x darlith 2-awr sy’n ystyried ystod o safbwyntiau: cyflwyniad i fframweithiau ymchwil, cyfweliadau, grwpiau ffocws, holiaduron, dadansoddi testun, archifau, technegau fideograffaidd, a dulliau ymchwil newydd a chreadigol. Rhennir darlithoedd i mewn i awr o draddodi confensiynol ac awr o waith ymarferol er mwyn datblygu sgiliau sy’n berthnasol ar gyfer y dulliau a gyflwynwyd yn y darlithoedd. Cynhelir gweithdy er mwyn cefnogi’r aseiniad ar ddiwedd y modiwl.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn defyddio cyfryngau ysgrifenedig a graffig er mwyn dadansoddi a chyflwyno data. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gall y sgiliau a ddatblygir drwy’r modiwl hwn osod seiliau ar gyfer astudiaethau pellach, ac maent hefyd yn drosglwyddadwy i gyd-destunau ymarferol anacademaidd. Pwysleisir eu perthnasedd ar gyfer astudio pellach a chyflogadwyedd drwy gydol y modiwl, gan gynnwys ar gyfer yr aseiniad. |
Datrys Problemau | Gwneir, drwy ddewis fframweithiau cysyniadol priodol a’r technegau cysylltiedig ar gyfer cyd-destunau ymchwil penodol. |
Gwaith Tim | Cynhwysir gwaith tim mewn ambell ddarlith a sesiwn ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwneir, drwy ddarllen annibynnol gyda chyfadran fyfyriol yr aseiniad. |
Rhifedd | N/A |
Sgiliau pwnc penodol | Cywain, dadansoddi, a chyflwyno data daearyddol a chymdeithasol. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir sgiliau darllen, meddwl, ac ysgrifennu drwy drafodaethau yn y dosbarth ac yn yr aseiniad. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd myfyrwyr yn dangos eu cymhwysedd drwy ddefnyddio Blackboard a’r adnoddau digidol a geir yn yr amgylchedd e-ddysgu hwnnw. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5