Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adolygiad llenyddiaeth 1500 gair | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1500 gair | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Cynnig traethawd hir/prosiect 1800 gair | 40% |
Asesiad Semester | Adolygiad llenyddiaeth 1500 gair | 30% |
Asesiad Semester | Traethawd 1500 gair | 30% |
Asesiad Semester | Cynnig traethawd hir/prosiect 1800 gair | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ysgrifennu mewn arddull academaidd.
2. Trafod llenyddiaeth gyfoes ym maes gwyddor amgylchedd yn feirniadol.
3. Dangos gwybodaeth o ddatblygiad Gwyddor Amgylchedd dros y degawdau diwethaf.
4. Trafod a dadansoddi’r defnydd o safbwyntiau damcaniaethol gwahanol o fewn Gwyddor Amgylchedd.
5. Adnabod problem neu bwnc ymchwil a dylunio strategaeth ymchwil briodol.
6. Dangos gwerthfawrogiad o natur a defnydd priodol o wahanol strategaethau methodolegol mewn Gwyddor Amgylchedd.
7. Dangos ymwybyddiaeth o faterion moesegol mewn ymchwil Gwyddor Amgylchedd.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n dilyn cynlluniau gradd Gwyddor Amgylchedd. Mae'n gosod sail ar gyfer cyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.
Y mae iddo bedwar nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell o gyswllt clos, fe fydd yn ymdrin â phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, mae gan bob modiwl tiwtorial gwyddor amgylchedd maes llafur academaidd ei hun. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar themâu cysylltiedig a rheda drwy gydol y rhaglen Gwyddor Amgylchedd. Yn drydydd, bydd yn datblygu sgiliau ymchwil drwy adnabod blychau llunio cwestiynau ymchwil, a dylunio strategaethau ymchwil. Yn olaf, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithiol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.
Mae Tiwtorial yr Ail Flwyddyn yn ymdrin â’r sgiliau astudio canlynol: Gwaith prosiect/traethawd hir [gan gynnwys dylunio /llunio problem ymchwil; ffynonellau data a thechnegau; llunio llyfryddiaeth; technegau ysgrifennu adroddiadau] Cyflwyniadau llafar Cyngor a hunanasesu gyrfaol Damcaniaethau daearyddol: gofodol/integredig/ecolegol/systemig/gwerthusol
Asesir y modiwl drwy dair elfen: traethawd (1,500 gair, 30%); adolygiad llenyddiaeth (1,500 gair, 30%); a chynnig traethawd hir/prosiect cydanrhydedd (1,800 gair, 40%).
Cynnwys
• Crynhoi a chyfosod llenyddiaeth academaidd;
• Llunio a chefnogi dadleuon;
• Dadleuon a seiliau deallusol i wyddor amgylchedd;
• Technegau adolygu;
• Llunio Cwestiynau ymchwil
• Moeseg a diogelwch mewn gwaith maes;
• Technegau cyflwyno.
Caniateir trafod agweddau eraill o ddatblygiad personol - megis nodi gwasanaethau prifysgol a lleol, disgwyliadau a heriau bywyd prifysgol, rheolaeth amser ac adnoddau; myfyrio ar berfformiad academaidd, a chyflogadwyedd a dyheadau gyrfa - yn y sesiynau tiwtor personol penodedig.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae materion cyflogadwyedd a datblygiad wedi eu hintegreiddio i’r modiwl drwy’r sesiynau tiwtora personol. |
Datrys Problemau | Gofynnir i fyfyrwyr adnabod problem ymchwil ac i lunio strategaeth ymchwil |
Gwaith Tim | Er nad yw wedi’i hasesu, bydd cyfleoedd i fyfyrwyr weithio fel tîm |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth; asesa rhan o’r aseiniad gyntaf sut ymatebwyd i adborth. |
Rhifedd | Heb ei asesu’n uniongyrchol yn benodol yn y modiwl |
Sgiliau pwnc penodol | Targeda’r tair aseiniad dadleuon a themâu allweddol mewn daearyddiaeth. |
Sgiliau ymchwil | Gofynnir i fyfyrwyr i ymchwilio a gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y gwaith cwrs |
Technoleg Gwybodaeth | Gofynnir i fyfyrwyr i ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer y gwaith cwrs. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5