Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Poster grŵp 500 gair | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio gwaith cwrs 1,000 gair | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Poster unigol 500 gair | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio gwaith cwrs 1,000 gair | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio siâp a strwythur mewnol y blaned, a'r technegau a ddefnyddir i astudio ein Daear 3D
2. Dangos dealltwriaeth o dectonegplatiau, gan gynnwys natur ffiniau platiau, mecanweithiau symud, a pheryglon daearegol cysylltiedig (llosgfynyddoedd,daeargrynfeydd, swnami)
3. Deall y prosesau cyfnewid sylfaenol rhwng yr atmosffer, hydrosffer a lithosffer gan gynnwys cylchrediadau’r atmosffer a’r cefnforoedd a'r cylch dŵr
4. Dangos dealltwriaeth o natur a rheolaethau newidiadau yn yr hinsawdd ar amrywiaeth o raddfeydd
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl yw meithrin dealltwriaeth o'r prosesau daearegol sy'n creu tirwedd a nodweddion solet y Ddaear, a'r prosesau sy'n cynhyrchu ac yn rheoli tywydd a hinsawdd.
Bydd yn darparu'r fframwaith sylfaenol ar gyfer deall ac ymchwilio i system amgylchedd y ddaear, dynameg newid byd-eang a'i oblygiadau i fywyd ar y ddaear.
Asesir y modiwl trwy gyfuniad o arholiad amlddewis a phoster adolygu grŵp.
Cynnwys
1.Y lithosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio tarddiad yDdaear a chysawd yr haul a siâp a strwythur ein planed ynogystal â mecanweithiau tectoneg platiau a pherygloncysylltiedig. Bydd hefyd yn cyflwyno cylchred yruwchgyfandiroedd, a'r rhyngweithio rhwng cyfandiroedd, yrhinsawdd a lefel y môr ar raddfa amser ddaearegol
2.Yr atmosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio hanfodionymbelydredd solar, ynni atmosfferig a'r gyllideb gwres fyd-eang a rhyngweithio prosesau allweddol yng nghydranatmosfferig y cylch dŵr - anweddu, ffurfio cymylau a dyodiad.Bydd hefyd yn archwilio cylchrediad atmosfferig byd-eang a'iddylanwad ar yr hinsawdd.
3.Yr hydrosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio storfeydd allwybrau'r cylch dŵr, gan gynnwys cylchrediad y cefnfor, dŵrffo byd-eang a dŵr daear yn ogystal â materion adnoddau dŵr cysylltiedig ac effaith newid amgylcheddol.
Cefnogir pob adran gan ddysgu gweithredol trwy sesiwn ymarferol gysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau mewn modelu cyfrifiadurol a chyfathrebu gwyddoniaeth.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd gofyn i fyfyrwyr gynhyrchu poster adolygu grŵp wedi'i gynllunio i gynorthwyo proses adolygu eu cymheiriaid, felly bydd cyfathrebu ysgrifenedig, gweledol a llafar yn cael ei ddatblygu yn y gweithgareddau hyn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Anogir myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu wrth gwblhau un gydran asesu (y poster adolygu) a bydd ffug arholiad hefyd yn annog hyn, ond ni fydd myfyrio yn cael ei asesu'n ffurfiol. Mae modelu a helpu i ddatblygu dealltwriaeth cyfoedion yn sgiliau sy'n berthnasol i yrfaoedd yn y dyfodol. Mae'r gallu i gyfathrebu gan ddefnyddio iaith wyddonol briodol a gweithio fel rhan o dîm yn sgiliau generig a throsglwyddadwy ond ni fyddant yn cael eu hasesu'n ffurfiol. |
Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau datrys problemau trwy'r pedair sesiwn ymarferol dysgu gweithredol gan gynnwys defnyddio model cyfrifiadurol am y tro cyntaf. Bydd angen i fyfyrwyr benderfynu ar y ffordd orau i ddadansoddi a chyflwyno data daearyddol a daearegol yn yr ymarferion hyn, yn aml trwy broses ailadroddol o arbrofi. |
Gwaith Tim | Bydd gofyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bach ar gyfer un o'r cydrannau asesu (poster adolygu) a thrwy hyn byddant yn datblygu sgiliau mewn gwaith tîm cydweithredol a dysgu cymheiriaid. Disgwylir i fyfyrwyr chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i fyfyrwyr addasu i arddull ddysgu fwy annibynnol a hunangyfeiriedig i gwblhau'r sesiynau ymarferol. Bydd cydrannau asesu ymarferol hefyd yn gofyn am rannu adnoddau â myfyrwyr eraill ar y cwrs, gan feithrin sgiliau gweithio mewn tîm a fydd o fudd i'w gallu i addasu a'u gwytnwch mewn amgylcheddau gweithio mewn grŵp a dysgu grŵp yn y dyfodol, yn ogystal â bod yn sgiliau meddal gwerthfawr ar gyfer eu bywyd ehangach a gyrfa y tu hwnt i'r brifysgol |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r prosesau a'r rhyngweithiadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â daeareg a daearyddiaeth ffisegol y Ddaear. Bydd yn gosod y sylfaen ar gyfer astudio gwyddor daear, prosesau wyneb y ddaear, geomorffoleg a hydroleg mewn modiwlau eraill yn Rhan 1 a Rhan 2. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddehongli canlyniadau model cyfrifiadurol ar gyfer un o'r sesiynau ymarferolcydrannau asesu (adroddiad ymarferol byr) a meddwl yn feirniadol hefyd am y ffyrdd gorau o gyflwyno data gwyddonoldaearyddol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno a dehongli allbynnau model cyfrifiadurol ar gyfer un asesiad, a defnyddio meddalwedd ddigidol i gwblhau poster adolygu ar gyfer un asesiad arall. Bydd y ddau gweithgareddasesiad hyn yn datblygu llythrennedd cyfrifiadurol. Mae darllen pellach yn rhan annatod o ddysgu dan gyfarwyddyd myfyrwyr, sy'n gofyn am gymhwysedd i ddod o hyd i ffynonellau perthnasol ac ymgysylltu â nhw ar-lein a thrwy beiriannau chwilio digidol yn y llyfrgell. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4