Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2,000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio o dasgau Portffolio o dasgau: dwy dasg olygyddol (dewis llenyddol; creadigol; cyfoes); un dasg cywiro proflenni. 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth feirniadol Sylwebaeth feirniadol ar y portffolio o dasgau. 800-1000 o eiriau | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o dasgau Portffolio o dasgau: dwy dasg olygyddol (dewis llenyddol; creadigol; cyfoes); un dasg cywiro proflenni. 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth feirniadol Sylwebaeth feirniadol ar y portffolio o dasgau. 800- 1000 o eiriau | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
dangos dealltwriaeth feirniadol o’r strwythurau a’r swyddogaethau sy’n cynnal diwydiant cyhoeddi Cymru, e.e. rôl y golygydd, rôl y prawf-ddarllenydd, rôl sefydliadau megis Cyngor y Celfyddydau, Cyngor Llyfrau Cymru, a gweisg annibynnol amrywiol Cymru.
medru dangos eu dealltwriaeth o broffiliau a hunaniaeth gweisg annibynnol Cymru a’u cloriannu’n feirniadol, e.e. Y Lolfa, Honno Gwasg Menywod Cymru, Barddas, Gomer, Rily, Y Dref Wen, Gwasg Carreg Gwalch, Atebol, ac ati.
medru trafod agweddau ar y diwydiant creadigol Cymreig yn briodol ac yn feirniadol.
caffael sgiliau penodol i’r diwydiant cyhoeddi a’u defnyddio yn gywir ac yn briodol: confensiynau golygyddol derbyniedig; golygu copi; prawf-ddarllen a marcio proflenni.
Nod
Y rhesymeg dros y modiwl dewisol hwn yw darparu modiwl a fydd yn cyfoethogi’r dewis o fodiwlau creadigol a phroffesiynol a gynigir i fyfyrwyr Rhan 2, gyda golwg ar ddatblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a fydd yn fanteisiol iddynt o safbwynt cyflogadwyedd. Mae’r modiwl hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r diwydiant cyhoeddi creadigol ehangach, gan gryfhau ein proffil am gydweithio.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i wahanol agweddau ar ddiwydiant creadigol proffesiynol Cymru, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau golygyddol a phrawf-ddarllen
Cynnwys
Wrth ddilyn y rhaglen hon, gwneir yn fawr o arbenigedd golygyddol staff Adran y Gymraeg, cymuned greadigol yr Adran, a chysylltiadau’r Adran â sefydliadau ac unigolion perthnasol. E.e. Cyngor Llyfrau Cymru; gweisg a chyhoeddwyr annibynnol; cyrff ariannu. Nod y modiwl yw pontio cymuned greadigol Adran y Gymraeg Aberystwyth a’r diwydiant creadigol ehangach yng Nghymru gyfoes, a rhoi fframwaith proffesiynol i fyfyrwyr.
20 Gweithdy
Wythnosau 1–3
Sesiynau 1–6: treulir awr yr wythnos ar strwythur y diwydiant cyhoeddi ac awr yr wythnos yn cyflwyno sgiliau:
Strwythur y Diwydiant Cyhoeddi: rhagarweiniad i’r diwydiant cyhoeddi creadigol yng Nghymru; Cyngor Llyfrau Cymru (strwythur; cefnogaeth i weisg ac awduron; llyfrau plant; e-lyfrau; marchnata); gweisg Cymru (proffiliau, rhaglenni cyhoeddi; comisiynu ac ymgeisio am grantiau; llywio cyfrolau drwy’r wasg)
Sgiliau: egwyddorion golygyddol a chysondeb; ymarferion dan gyfarwyddyd.
Wythnos 4
Ymweliad â Chyngor Llyfrau Cymru
Wythnos 5
Golygu testunau llenyddol ac academaidd (hanesyddol a chyfoes); ymarferion dan gyfarwyddyd.
Wythnosau 6 & 7
Golygu copi; ymarferion dan gyfarwyddyd.
Wythnos 8
Golygu creadigol; ymarferion dan gyfarwyddyd
Wythnosau 9 & 10
Prawf-ddarllen; ymarferion dan gyfarwyddyd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio’n annibynnol er mwyn cyflawni’r tasgau, ac mae cyfathrebu yn rhan annatod o strwythur y modiwl, sef gweithdai rhyngweithiol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gofynnir i fyfyrwyr adfyfyrio ar eu perfformiad a’u datblygiad ar y modiwl hwn mewn sylwebaeth feirniadol sy’n cyd-fynd â’r portffolio o dasgau. |
Datrys Problemau | Cywirdeb wrth olygu copi, golygu creadigol, darllen a marcio proflenni |
Gwaith Tim | Mae nifer o’r sgiliau yn rhai personol ond bydd cyfle i fyfyrwyr drafod a gweithio gyda’i gilydd yn y gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd yr ymarferion dan gyfarwyddyd yn gyfle i gael asesiad ffurfiannol; gofynnir am sylwebaeth feirniadol ar y portffolio o dasgau. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Dysgir sgiliau ymarferol a fydd yn ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr yn y diwydiant cyhoeddi ac mewn gweithleoedd proffesiynol amrywiol eraill. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio rhaglenni megis Microsoft Office (Word, PowerPoint) wrth baratoi tasgau; disgwylir iddynt hefyd werthfawrogi pwysigrwydd Gwybodaeth Technoleg yn y diwydiant creadigol (e.e. rhaglenni cysodi, marchnata, gwefannau, e-lyfrau |
Technoleg Gwybodaeth | Gweler rhif 2, defnyddio Bwrdd du AberLearn. Defnyddio Word &c |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6