Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Dyddiadur llafar , gan defnyddio offer Panopto ar y BwrddDu neu ar ffurf ffeiliau MP3. 4 recordiad (tua dwy funud yr un) yn crynhoi eich profiad ar ddiwedd bob wythnos o’r cwrs llafar (10 munud). | 30% |
Asesiad Semester | Arholiad llafar / oral exam (20 munud) | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Dyddiadur llafar , gan defnyddio offer Panopto ar y BwrddDu neu ar ffurf ffeiliau MP3. 4 recordiad (tua dwy funud yr un) yn crynhoi eich profiad ar ddiwedd bob wythnos o’r cwrs llafar (10 munud). | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad llafar / oral exam (20 munud) | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Siarad Cymraeg ar bynciau amrywiol yn hyderus ar lefel Sylfaen.
2. Cyrraedd safon Sylfaen o safbwynt geirfa a gramadeg y Gymraeg.
3. Dangos dealltwriaeth o gyweiriau llafar y Gymraeg a medru defnyddio cywair iaith priodol wrth gyfathrebu ar lafar ar lefel Sylfaen.
Disgrifiad cryno
Modiwl ymarferol yw hwn a fydd yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu sgiliau llafar myfyrwyr sy’n dysgu’r iaith o’r newydd. Mae’r cwrs dwys yn caniatáu i fyfyrwyr bontio Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ar gynlluniau Q500 a Q522. Mae’r sesiynau ieithyddol a diwylliannol yn dyfnhau profiad myfyrwyr o’r iaith (geirfa, cystrawen, cywair) ac oherwydd natur ymarferol y sesiynau, yn eu cefnogi i fod yn siaradwyr hyderus. Un o fanteision ychwanegol y cwrs yw hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel iaith gymdeithasol, gan fod sesiynau cymdeithasol yn rhan annotod o’i strwythur hefyd.
Cynnwys
[Nodyn: nid yw rhaglen 2020 ar gael ar hyn o bryd]
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae galluogi myfyrwyr i gyfathrebu’n hyderus ac yn briodol ar lafar wrth wraidd y modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â geirfa, cystrawen a chywair llafar ac yn meithrin hyder i gyfathrebu’n hyderus ar lafar yn y Gymraeg. |
Datrys Problemau | Oherwydd natur ymarferol y modiwl, bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirda, cystrawen, cywair a mynegiant. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn cydweithio ag eraill yn sesiynau ymarferol y modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ac yn ymateb i adborth gan staff dysgu a chymheiriaid yn sesiynau ymarferol y modiwl hwn. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Dysgir am gyweiriau llafar y Gymraeg ac atgyfnerthir gallu’r myfyrwyr i gyfathrebu ar lafar yn y cywair priodol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell a’r BwrddDU wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio’r BwrddDU wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn, ynghyd ag ymchwilio arlein wrth baratoi ar gyfer sesiynau ymarferol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4