Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar neu Gyflwyniad Poster (8-10 munud) | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd Estynedig 5000-8000 gair i’w gyflwyno ar ddiwedd semester 2. Bydd gofyn cyflwyno adroddiad ymchwil yn wythnos 8 yn semester 1. Gall methu â chyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol. | 75% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Llafar neu Gyflwyniad Poster (8-10 munud) | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Estynedig 5000-8000 gair i’w gyflwyno ar ddiwedd semester 2. Bydd gofyn cyflwyno adroddiad ymchwil yn wythnos 8 yn semester 1. Gall methu â chyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol. | 75% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dysgu’r sgiliau angenrheidiol i wneud gwaith ymchwil mewn maes cyfraith a/neu droseddeg o’u dewis ac ysgrifennu canlyniadau’r ymchwil hwn mewn modd clir a dealladwy er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a’r syniadau sydd yn yr ymchwil yn cael eu hyrwyddo mor eang a phosib.
2. Cymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwlau Sgiliau Ymchwil i’w dewis faes o fewn cyfraith, troseddeg neu seicoleg troseddu.
3. Cynnal ymchwil annibynnol heb fawr o gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth.
4. Darparu cyflwyniad rhesymegol a chlir ac ysgrifennu eu canfyddiadau.
5. Adolygu corff cydlynol o wybodaeth yn feirniadol a’i gyflwyno i gynulleidfa.
Gellir crynhoi canlyniadau’r hyfforddiant sy’n gysylltiedig a’r modiwl fel a ganlyn:
(a) dangos gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy ddewis testun hyfyw i ymchwilio iddo.
(b) Adolygu, cloriannu a blaenoriaethu arwyddocâd y deunyddiau a gafwyd a’r materion a nodwyd.
(c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd.
(d) datblygu’r gallu i drefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl a’r data yn effeithiol.
(e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn rhoi cyflwyniad eglur, cywir a darllenadwy o'r pwnc dan sylw mewn darn o waith ysgrifenedig sylweddol rhwng 8000-10000 gair.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwil ac ysgrifennu troseddegol dros gyfnod sy'n ymwneud â phwnc arbennig yn hytrach nag wedi'i seilio ar gwrs astudio rhagnodedig. Y myfyriwr fydd yn dewis pwnc i'w ymchwilio'n fanwl gyda chymeradwyaeth yr Adran a throsglwyddo i gamau ymchwilio ac ysgrifennu'r ymarfer dan gyfarwyddyd aelod o'r staff sy'n arbenigo ym maes y traethawd estynedig. Mae'r ymarfer cyffredinol o ymchwilio a llunio'r traethawd estynedig yn datblygu'r wybodaeth am adnoddau'r llyfrgell, a'r hyfforddiant ar gyfer eu defnyddio, a gyflwynir yn y modiwlau 'Criminology in Action’ ac ‘Introduction to Criminology’. Mae hefyd yn adeiladu ar hyfforddiant a chymhwysiad ymarferol y gallu i ddeall methodolegau'r gwyddorau cymdeithasol a ddysgwyd yn y modiwl Sgiliau Ymchwil Troseddeg. Mae ymchwilio'n llwyddiannus yn rhagdybio'r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau'r llyfrgell ac i olrhain ffynonellau drwy gyfrwng cronfeydd data a chymorthyddion llyfryddiaethol. Darperir cyfarwyddyd gan y goruchwyliwr a bennwyd drwy gyfres o gyfarfodydd. Yn ystod y rhain, bydd y myfyriwr yn nodi ei gynnydd ac yn cyflwyno drafft neu ddrafftiau ysgrifenedig i gael sylwadau arnynt. Swyddogaeth y goruchwyliwr fydd rhoi cyngor am fethodoleg ymchwil a'r modd y cyflwynir yr ymchwil yn y traethawd ei hun.
Cynnwys
Fe'i gosodir gan y myfyrwyr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir cyfathrebu llafar trwy drafod syniadau a mynegi problemau sy’n gysylltiedig a'r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda’r goruchwyliwr, yn ogystal a’r cyflwyniad sy’n ofynnol ar gyfer y gynhadledd israddedig yn ystod semester 2. Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r angen i fynegi adroddiad darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gwell gallu ar gyfer meddwl annibynnol a beirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio dros ddau semester, a chyflwyno. |
Datrys Problemau | Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn defnyddio sgiliau datrys problemau a fydd yn gwella ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes. |
Gwaith Tim | Cynhelir nifer o gyfarfodydd lle gall myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu problemau a wynebwyd a’r atebion posibl iddynt. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a’r angen i leoli a threfnu deunydd perthnasol, bydd y myfyriwr yn dysgu sut i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol. |
Rhifedd | Bydd rhai o’r testunau yn cynnwys dadansoddiadau ystadegol cymhleth y bydd angen eu deall a’u cloriannu. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | (a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran lleoli’r deunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; (c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd; (d) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o ddau semester; (e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 8,000 – 10,000 o eiriau. |
Technoleg Gwybodaeth | Dod o hyd i ddeunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; Paratoi’r aseiniad yn electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6