Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig (1,500 gair (gan gynnwys cynllun o 10%)) | 50% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig (1,500 gair) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad nas gwelir ymlaen llaw Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o’r system gyfreithiol a’r system gyfiawnder troseddol, a’r rhyngweithiad rhyngddynt.
Bod yn gyfarwydd â ffynonellau cyfreithiol a sut i ddod o hyd iddynt, a’u adnabod.
Bod yn gyfarwydd â phrosesau llysoedd a chwrs treialon.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn cwmpasu holl elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd cymhwyso yn y gyfraith, tra’n darparu trosolwg o’r system gyfiawnder troseddol. Cyfunir y ddau destun mewn modiwl sy’n cyflwyno’r berthynas a rhyngweithiad rhyngddynt.
Cynnwys
Llysoedd/hierarchaeth y llysoedd; ffynonellau cyfraith; cynsail; dehongliad statudol; y proffesiwn cyfreithiol; y farnwriaeth; ynadon; y rheithgor; systemau gwrthwynebus ac ymchwiliol; ADR; tribiwnlysoedd; yr heddlu; disgresiwn; grymoedd; PACE; treial/ grŵp gweithio llysoedd; dedfrydu; dedfrydiadau cadwriaethol ac ang-hadwriaethol; rheolau/gweithdrefnau carchardai.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Seminarau rhyngweithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cynghorir myfyrwyr ynghylch y cyfleoedd amrywiol y gall gradd yn y Gyfraith/Troseddeg ei gynnig |
Datrys Problemau | Seminarau rhyngweithiol. |
Gwaith Tim | Seminarau rhyngweithiol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Paratoadau seminar ac ymchwil |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Dealltwriaeth o ddulliau cyfreithiol |
Sgiliau ymchwil | Cronfeydd ymchwil cyfreithiol. |
Technoleg Gwybodaeth | Systemau TG a chronfeydd cyfreithiol sy’n hanfodol i ymchwil ac astudiaethau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4