Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Exam | 2 Hours Arholiad | 60% |
Semester Assessment | Adroddiad ysgrifenedig (2,500 gair) | 40% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad | 60% |
Supplementary Assessment | Adroddiad ysgrifenedig (2,500 gair) | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Trafod theori rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi, gan gloriannu’r wybodaeth berthnasol a’i rhoi ar waith.
2. Cloriannu’n feirniadol systemau ar gyfer rheoli deunyddiau, stocrestrau a chapasiti yn weithredol.
3. Adolygu’n feirniadol y modd y caiff cadwyni cyflenwi eu dylunio, eu cynllunio a’u rheoli.
4. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd ac effaith newidiadau technolegol mewn gweithrediadau busnes.
5. Nodi a thrafod y materion cyfredol yn ymwneud â gweithrediadau a rheoli cadwyni cyflenwi a wynebir gan sefydliadau.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i amrywiaeth o bynciau o dan y pennawd cyffredinol rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. Mae’r modiwl yn meithrin dealltwriaeth ynghylch sut i roi cysyniadau/technegau perthnasol yn ymwneud â gweithrediadau a chadwyni cyflenwi ar waith i reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi yn effeithiol, ac i ddatrys problemau busnes.
Content
- Gweithrediadau, prosesau a chylchredau oes
- Rheoli cadwyni cyflenwi
- Rheoli deunyddiau a pherfformiad stocrestrau
- Rheoli capasiti a galw
- Rheoli ciwiau a bodlonrwydd cwsmeriaid
- Rheoli ansawdd
- Cynnyrch a gwasanaethau newydd
- Dylunio prosesau a defnyddio technoleg
- Rheoli Gwelliannau Parhaus
- Risgiau a Methiannau TGCh
- Arloesi a gwella parhaus
- Rheoli prosiectau
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Dadansoddi adroddiadau ariannol ac adroddiadau eraill sy’n seiliedig ar wybodaeth rifyddol. |
Communication | Datblygu sgiliau cyfathrebu gan gynnwys sgiliau cyflwyno a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd trwy ddarllen ac ysgrifennu am reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. |
Improving own Learning and Performance | Llunio strategaethau realistig ar gyfer hunan-ddysgu, a’u rhoi ar waith. Adolygu a monitro’u perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser. |
Information Technology | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn eang, paratoi a dadansoddi data, cyflwyno gwybodaeth. |
Personal Development and Career planning | Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn i wella eu cyfleoedd gyrfaol. Byddant hefyd yn gallu ystyried goblygiadau cadwyni cyflenwi a gweithrediadau yn eu dewis yrfa. |
Problem solving | Nodi problemau. Datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision. Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem. |
Research skills | Gwneud ymchwil ar reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. Dod o hyd i ddeunydd ffynhonnell perthnasol ar gyfer aseiniadau ac astudiaethau achos. |
Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn gallu deall, a dadansoddi gweithrediadau a chadwyni cyflenwi ac ystyried sut y gall yr elfennau hyn ddarparu mantais gystadleuol a gofynion capasiti yn eu dewis yrfa a’u sefydliad. |
Team work | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp, cyfrannu’n effeithiol i weithgareddau grŵp, cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a seminarau. |
Notes
This module is at CQFW Level 5