Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
BG26020
Teitl y Modiwl
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd gwaith cwrs (2000 gair) | 20% |
Asesiad Semester | Adroddiad ymarferol a dadansoddi data (2000 gair, gan gynnwys dadansoddiad o ddata) | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r rhai a arweiniodd at fethu’r modiwl. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r rhai a arweiniodd at fethu’r modiwl. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Esbonio’r rhan a chwaraeir gan wahanol ficrobau yn y cylchredau bioddaeargemegol allweddol (carbon, nitrogen a ffosfforws).
2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r modd y mae gwahanol grwpiau o ficrobau’n rhyngweithio â’i gilydd ac ag organebau uwch eraill.
3. Dangos gwybodaeth ynglŷn â sut i ymchwilio i gynefinoedd naturiol a sut y mae dulliau ymchwil yn wahanol i ddulliau monitro arferol.
4. Defnyddio sgiliau TG i ddadansoddi a chloriannu llenyddiaeth ac arbrofion.
Disgrifiad cryno
Bydd y darlithoedd a’r sesiynau ymarferol yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y rhan a chwaraeir gan ficrobau mewn ecosystemau tirol a dyfrol, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd mewn cylchredau bioddaeargemegol. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y methodolegau a ddefnyddir i astudio’r organebau hyn, y cylchredau y maent yn dylanwadu arnynt ac amodau ecosystem ehangach yng nghyd-destun safonau amgylcheddol.
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ddamcaniaethau ac arferion y cylchredau maethol creiddiol sy’n seiliedig ar ficrobau mewn cynefinoedd tirol a dyfrol. Yn ogystal â disgrifio cylchredau bioddaeargemegol yn y cynefinoedd hyn, a’r microbau perthnasol, bydd y modiwl hefyd yn trafod y dulliau a ddefnyddir i ganfod/monitro gweithgarwch microbau, biomas a bioamrywiaeth. Ystyrir hefyd y dulliau a ddefnyddir i fonitro statws a lefelau llygredd ecosystemau, a’u rôl o safbwynt canfod dirywiad amgylcheddol yn gynnar. Esbonnir yr angen i sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir i fonitro newidiadau o’r fath yn ailadroddadwy, yn gywir ac wedi’u cysylltu â rheoliadau statudol. Bydd darlithoedd ar fethodoleg yn ategu cyfres o ddosbarthiadau ymarferol.

Cynnwys
Darlithoedd
Bydd y darlithoedd cychwynnol yn trafod y cylchredau bioddaeargemegol allweddol (C,N, P), amrywiaeth biocemegol a genetig o fewn Bacteria/Archaea, rôl ffyngau mewn dirywiad ligoselwlos, cysylltiadau rhwng microbau mewn llynnoedd/nentydd, rôl ffyngau wrth brosesu malurion mewn nentydd, cynhyrchedd cynradd mewn cynefinoedd eigionol, cysylltiadau rhwng microbau ac anifeiliaid, a rhwng microbau a phlanhigion. Asesir dulliau mewn ecoleg microbau (biocemegol/molecylaidd), a fydd yn arwain at ddisgrifiad o dechnegau monitro amgylcheddol ehangach. Ystyrir y cysylltiad rhwng y technegau hyn a’r broses o osod safonau i ddiogelu’r amgylchedd. Trafodir rhinweddau cymharol cynnal profion biolegol a chemegol o amodau amgylcheddol.
Aseiniad Traethawd
Bydd cyflwyno traethawd ar astudiaethau achos penodol mewn ecoleg microbau yn rhan o asesiad y modiwl hwn. Bydd hyn yn darparu’r cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio eu hymchwil personol ar weithrediad ecosystem penodol (dilychwin neu ddiraddedig).
Dosbarthiadau Ymarferol
Bydd cyfres o ddosbarthiadau ymarferol yn trafod profion microbiolegol a chemegol a ddefnyddir wrth asesu ansawdd ecosystemau.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu ysgrifenedig yn ystod ysgrifennu’r traethawd, yr adroddiad ymarferol a’r arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni fydd yn cael ei ddatblygu’n benodol, ond ceir llu o gyfleoedd cyflogaeth ym maes monitro amgylcheddol. |
Datrys Problemau | Gwneir hyn trwy ddadansoddi data o’r sesiynau ymarferol. |
Gwaith Tim | Yn ystod y dosbarthiadau ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Darperir adborth ar waith cwrs (ar-lein ac ar lafar), yn ogystal â sesiynau adolygu ar gyfer yr arholiadau. |
Rhifedd | Gwneir hyn trwy ddadansoddi data o’r dosbarthiadau ymarferol. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r modiwl yn trafod damcaniaethau ac arferion sawl dull allweddol ym maes monitro amgylcheddol. |
Sgiliau ymchwil | Gwneir hyn drwy ymchwilio ar-lein ar gyfer y traethawd. |
Technoleg Gwybodaeth | Gwneir hyn trwy ymchwilio ar-lein ar gyfer aseiniad y traethawd a thrwy ddadansoddi data o’r dosbarthiadau ymarferol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5