Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD24720
Teitl y Modiwl
Lleoliad Gwaith B Blwyddyn 2
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig  1,000 gair  20%
Asesiad Semester Portffolio  4,000 gair  80%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad ysgrifenedig  1,000 gair  20%
Asesiad Ailsefyll Portffolio  4,000 gair  80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Integreiddio persbectifau damcaniaethol yn feirniadol wrth ddarparu ymarfer proffesiynol

2. Bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cael sylw yn y modiwl hwn, a dangos tystiolaeth eu bod yn eu bodloni

3. Ystyried yn feirniadol oblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygu personol yn y dyfodol, a’u cloriannu

Cynnwys

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 15 diwrnod mewn lleoliad blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau i ddod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y cymwyseddau a amlinellir uchod. Bydd y portffolio ymarfer proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o ymarfer mewn lleoliad blynyddoedd cynnar. Yn ystod eu lleoliad gwaith, bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ar-lein ar y pynciau canlynol:


Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygiad proffesiynol (darlith 2 awr)

Yn ogystal â hyn, byd gan bob myfyriwr arolygydd dynodedig a mentor lleoliad gwaith a fydd yn monitro cynnydd y myfyriwr. Bydd disgwyl i’r myfyriwr anfon e-bost at yr arolygydd bob pythefnos i roi diweddariad ar eu cynnydd.

Trwy gydol semester 1 ym mlwyddyn 2, cynhelir gweithdai gyda’r myfyrwyr i ddarparu manylion ynglŷn â threfnu lleoliadau gwaith, ymddygiad proffesiynol a’r portffolios asesu. Bydd yn rhaid mynychu pob un o’r gweithdai.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd eu hunain a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd gofyn i fyfyrwyr gadw portffolio o dystiolaeth i ddangos eu bod yn gallu bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrio’n feirniadol ynglŷn ag arferion presennol a rolau proffesiynol yn rhan hanfodol o’r portffolio. Anogir myfyrwyr i gloriannu canfyddiadau ymchwil cyfredol ac i archwilio’r posibiliadau a’r goblygiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, yn bersonol ac o fewn y proffesiwn. Neilltuir arolygydd prifysgol a mentor lleoliad gwaith i bob myfyriwr. Bydd yr ail fodiwl lleoliad gwaith hwn yn rhoi sylw i’r materion canlynol:


SCDCCLD0303 Hyrwyddo Datblygiad Plant a Phobl Ifanc


SCDHSCO326 Hyrwyddo datblygiad ymddygiad cadarnhaol


Hybu iechyd a datblygiad corfforol plant SCDCCLD0307


Hyrwyddo gofal babanod a phlant SCDCCLD 0314


Gweithredu fframweithiau ar gyfer addysg gynnar drwy ddatblygu gwaith cynllunio’r cwricwlwm SCDCCLD 0309




Hyrwyddo dysgu cynnar plant yn yr amgylchedd ysgol SCDCCLD 0316

Defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i hyrwyddo gwaith dysgu cynnar plant SCDCCLD 0323

Hyrwyddo a diogelu plant a phobl ifanc SCDHSC 0034

Cefnogi plant a phobl ifanc trwy’r prif gyfnodau pontio SCDCCLD 0325

Datblygu eich ymarfer trwy fyfyrio a dysgu SCDHSC 0033


Datblygu eich gwybodaeth a’ch ymarfer SCDHSC 0023

Cyfrannu at effeithiolrwydd timau SCDCHSC 0241

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Bydd angen i fyfyrwyr ddangos effeithlonrwydd wrth drefnu llawer iawn o wybodaeth gymhleth a’r gallu i nodi, disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol y wybodaeth.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd angen i fyfyrwyr ddangos bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i weithio mewn practis proffesiynol.
Sgiliau ymchwil
Technoleg Gwybodaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5