Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 900 gair | 30% |
Asesiad Semester | Portffolio 2,100 gair | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad ysgrifenedig 900 gair | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio 2,100 gair | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth am ddatblygiad a dysgu plant.
2. Deall effaith oedolion a’r amgylchedd ar ddatblygiad a dysgu plant.
3. Myfyrio ynghylch datblygiad a dysgu plant yn ymarferol, a’u cloriannu.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno i’r myfyrwyr ddulliau astudio plant, arferion gofal plant a seicoleg ddatblygiadol ac mae’n ystyried y rhain yng nghyd-destun ymarferol gweithio gyda phlant ifanc. Bydd myfyrwyr yn ystyried y prif egwyddorion o ran datblygiad plant yn ogystal ag anghenion dysgu ychwanegol penodol. Byddant yn ystyried effaith yr amgylchedd ar ddatblygiad a dysgu plant, ac yn myfyrio ynghylch pwysigrwydd monitro, adolygu a chloriannu datblygiad plant a’u harferion eu hunain. Fel rhan o’r modiwl, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 50 awr mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
Cynnwys
Egwyddorion a Chysyniadau Allweddol (datblygiad corfforol a seicolegol)
Seicoleg Ddatblygiadol, theorïau datblygiad ac ymlyniad
Anghenion dysgu ychwanegol
Y Cyfnod Sylfaen
Effaith yr amgylchedd ar ddysgu plant
Rôl oedolion
Bodloni anghenion plant
Monitro, adolygu a chloriannu datblygiad ac arferion
Wythnosau 9 a 10 – bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau gwaith (cyfanswm o 50 awr). Trwy gydol y sesiynau seminar, bydd myfyrwyr yn cael cymorth i ddod o hyd i leoliadau gwaith, ac i wneud y trefniadau perthnasol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Anogir myfyrwyr i fyfyrio ynghylch eu sgiliau a’u cloriannu |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol |
Gwaith Tim | Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a gweithdrefnau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgìl bwysig a fydd yn cael ei datblygu trwy gydol y modiwl |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad |
Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar |
Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud gwaith ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4