Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
AD14320
Teitl y Modiwl
Datblygiad Iaith
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Prawf ar-lein Asesiad o derminoleg | 10% |
Asesiad Semester | Traethawd (1,500 gair) Dadansoddiad o iaith | 50% |
Arholiad Semester | Cyflwyniad Cyflwyniad 15 munud wedi ei seilio ar leoliad | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Prawf ar-lein Asesiad o derminoleg | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (1,500 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Cyflwyniad 15 munud ar bwnc gwahanol | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gamau a nodweddion datblygiad iaith plant, gan gynnwys datblygu mwy nag un iaith.
2. Arddangos ymgysylltiad beirniadol â dulliau damcaniaethol o ddatblygu iaith plant.
3. Arddangos gwybodaeth am arferion cyfredol wrth gefnogi datblygiad iaith plant.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn trafod datblygiad iaith plant ifanc. Edrychir ymhellach ar faterion allweddol yn ymwneud â materion a allai effeithio ar ddatblygiad iaith. Bydd yr wythnosau cyntaf yn cyflwyno myfyrwyr i'r blociau a'r damcaniaethau adeiladu sylfaenol sy'n ymwneud â datblygiad iaith uniaith a dwyieithog. Bydd y modiwl hefyd yn mynd i'r afael ag anghenion plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu Saesneg fel iaith ychwanegol ac yn trafod sut y gall rhoddwyr gofal ac ymarferwyr gynnig cymorth i blant gyda'u datblygiad ieithyddol.
Cynnwys
Bydd y sesiynau yn seiliedig ar y canlynol:
1. Dechreuadau iaith
2. Datblygiad iaith 1
3. Datblygiad iaith 2
4. Datblygiad iaith 3
5. Datblygu mwy nag un iaith
6. Damcaniaethau datblygiad iaith
7. Cefnogi datblygiad iaith - SIY
8. Cefnogi datblygiad iaith – ADY
Wythnosau 9 a 10 – Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau ar gyfer modiwl gwahanol. Lle nad yw myfyrwyr ar leoliad, byddant yn cymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau cyflogadwyedd.
1. Dechreuadau iaith
2. Datblygiad iaith 1
3. Datblygiad iaith 2
4. Datblygiad iaith 3
5. Datblygu mwy nag un iaith
6. Damcaniaethau datblygiad iaith
7. Cefnogi datblygiad iaith - SIY
8. Cefnogi datblygiad iaith – ADY
Wythnosau 9 a 10 – Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau ar gyfer modiwl gwahanol. Lle nad yw myfyrwyr ar leoliad, byddant yn cymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau cyflogadwyedd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn: 1) cyfathrebu'n effeithiol â phlant tra byddant ar leoliad; 2) ysgrifennu aseiniad academaidd a sicrhau cyflwyniad ffurfiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn adnabod, yn dethol ac yn dadansoddi enghreifftiau o iaith plant o’u hymarfer. |
Gwaith Tim | Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol yn ystod eu lleoliad, yn sgìl pwysig a fydd yn cael ei ddatblygu drwy gydol y modiwl |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | 1) bydd adborth o aseiniad 2 yn llywio perfformiad myfyrwyr yn aseiniad 3. 2) bydd gweithio gydag ymarferwyr ar leoliad yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i lenyddiaeth berthnasol ac yn defnyddio CHILDES i gyrchu enghreifftiau o iaith y plant. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnydd o CHILDES. Bydd aseiniadau ysgrifenedig yn cael eu cyflwyno gyda prosesydd geiriau a bydd y myfyrwyr yn defnyddio TGCh i ymchwilio |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4