Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cais am Swydd 3 ochr o A4 | 35% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Unigol 15 munud cyflwyniad | 35% |
Asesiad Semester | Cyfranogiad mewn penwythnos gweithgareddau. 2 diwrnod | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Cais am Swydd 3 ochr o A4 | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Unigol 15 munud cyflwyniad | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
cynllunio CV priodol
dangos bod ganddynt y sgiliau sylfaenol ar gyfer rheoli amser, gweithio mewn tim ac ysgrifennu academaidd
adolygu eu perfformiad eu hunain yn feirniadol
defnyddio offer cyfrifiadurol i ategu eu hastudiaethau yn y brifysgol
ymchwilio, cynllunio a rhoi cyflwyniad technegol
Nod
Mae'r modiwl yn cynnwys deunydd nad yw'n cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o fodiwlau penodol ond sy'n hanfodol er mwyn ennill dealltwriaeth gyflawnach o'r maes yn gyffredinol. Mae sgiliau trosglwyddadwy personol yn nodwedd bwysig i unrhyw fyfyriwr graddedig ac mae'n rhan bwysig o'r modiwl hwn.
Disgrifiad cryno
Cynlluniwyd y Penwythnos Gweithgareddau i wella sgiliau gwaith tim y myfyrwyr a datblygu ymhellach eu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu. Trwy gyfrwng cyfres o dasgau amrywiol a gynhelir drwy gydol y penwythnos, a ategir gan waith prosiect pellach, bydd sgiliau'r myfyrwyr wrth ddatrys problemau a gweithio mewn tim yn cael eu hymarfer.
Bydd dosbarthiadau yn annog y myfyrwyr i ganolbwyntio ar sgiliau trosglwyddadwy, megis ysgrifennu, ymchwilio a gwneud cyflwyniadau.
Cynnwys
1. Gwneud y mwyaf o'ch profiad yn y Brifysgol - 1 ddarlith
Gwneud y mwyaf o ddysgu wedi ei ganoli ar y myfyriwr.
2. Rheoli Amser - 1 ddarlith
Dadansoddi sut orau i reoli amser er mwyn gwneud y mwyaf ohono.
3. Cyfeirio a dyfynnu - 1 ddarlith
Defnyddio deunydd sy'n bodoli eisoes. Ffyrdd cywir ac addas o gyfeirio a dyfynnu. Llen-ladrad. Y Llyfrgell.
PENWYTHNOS GWEITHGAREDDAU SGILIAU TIM
4. Llunio Curriculum Vitae o safon uchel a marchnata'ch hun yn effeithiol, a chynllunio eich blwyddyn mewn diwydiant a'ch lleoliadau dros yr haf - 2 ddarlith
Cyflwyniad ar y cyd a'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd
5. Cynllunio Cyflwyniad - 1 ddarlith
Cyflwyniad i bwysigrwydd strwythur, amseru a chynnwys cyflwyniadau.
6. Rheoli grwp - 1 ddarlith
Sut i weithio'n effeithiol fel tim, a chyfle i fyfyrio am y penwythnos
7. Sut i ysgrifennu Saesneg da - 1 ddarlith
Cyflwyniad i arddull a thechneg wrth ysgrifennu Saesneg da.
8. Techneg Arholiadau - 1 ddarlith
Cyfarwyddiadau safonol. Defnyddio amser, cynllunio. Arddull cwestiynau.
9. Pynciau eraill - hyd at 2 ddarlith.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Yn y cyflwyniad a'r CV |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Yn y CV |
Gwaith Tim | Yn y cyflwyniad |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Yn y CV |
Sgiliau ymchwil | Mewn cyflwyniadau |
Technoleg Gwybodaeth | Yn rhan sylfaenol o'r modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4