Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 1.5 Awr Amlddewis ar-lein | 80% |
Asesiad Semester | 10 Awr Taflenni gwaith ymarferol sy'n mynd i'r afael a gwahanol agweddau ar ddiogelwch gwybodaeth. | 20% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Amlddewis ar-lein | 80% |
Asesiad Ailsefyll | 10 Awr Taflenni gwaith ymarferol sy'n mynd i'r afael a gwahanol agweddau ar ddiogelwch gwybodaeth. | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig a datblygu systemau diogel cyfrifiadurol.
2. Disgrifiwch wahanol fathau o ymosodiadau - seiber a phenderfynu ar amddiffynfeydd priodol yn erbyn ymosodiad.
3. Dangos dealltwriaeth o ddulliau amgryptio priodol, a'u defnyddio.
4. Gwerthuso agweddau o systemau cyfrifiadurol gan gyfeirio at gyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd (fframwaith y CIA).
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau allweddol mewn diogelwch gwybodaeth, gan ddarparu trosolwg o fframweithiau damcaniaethol ar gyfer systemau diogel ac argymhellion ymarferol. Bydd yn cynnwys agweddau ar ddiogelwch meddalwedd, caledwedd a rhwydwaith.
Cynnwys
1. Model y CIA o ddiogelwch: Cyfrinachedd, Uniondeb, Argaeledd
2. Rheoli risg mewn diogelwch gwybodaeth
3. Cyfrineiriau a rheoli cyfrinair
4. Rheoli mynediad a diogelwch rhwydwaith
5. Codau a 'chiphers'
6. Amgryptio allwedd gymesur - DES, AES
7. Amgryptio allwedd gyhoeddus - RSA
8. Ymosodiadau a'u lliniaru: Grym llym, dyn yn y canol, gwadu gwasanaeth, cynyddu braint, chwistrellu cod, gwe-rwydo
9. Peirianneg gymdeithasol
10. Dylunio Diogel a rhaglennu amddiffynnol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweithio ar bwnc sy'n bwysig i adeiladu systemau proffesiynol mewn diwydiant. |
Datrys Problemau | Mewn taflenni gwaith a sesiynau ymarferol. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datrys problemau mewn sesiynau ymarferol a chwblhau taflenni gwaith. |
Rhifedd | Mewn taflenni gwaith a sesiynau ymarferol a’r arholiad. |
Sgiliau pwnc penodol | Gweler cynnwys y modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Trwy astudio annibynnol a pharatoi ar gyfer yr arholiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Yn gynhenid yn y modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4